Skip to main content
Data tryloywder

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC): Adroddiad y Cyfarwyddwr, 9 Gorffennaf 2026

Cyhoeddwyd 29 Mehefin 2026

Yn berthnasol i Gymru

1. Crynodeb

Mae’r adroddiad hwn yn casglu diweddariadau allweddol ar gyfer y Pwyllgor, gan gynnwys:

  • dolen i Adroddiad y Prif Weithredwr a’r diweddariad a gyflwynwyd i’r Bwrdd yn ei gyfarfod ar 17 Mehefin 2026
  • trosolwg o ddatblygiadau diweddar ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru, gan gynnwys y prif feysydd o gynnydd a’r materion penodol sydd o ddiddordeb i Gymru

Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i:

  • nodi’r diweddariad
  • gofyn i’r Cyfarwyddwr ymhelaethu ar unrhyw faterion sydd angen eu trafod yn fanylach

2. Adroddiad y Prif Weithredwr i Fwrdd yr ASB

Cyflwynwyd adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr yng nghyfarfod y Bwrdd ar 17 Mehefin 2026, ac mae’n darparu cyd-destun sefydliadol ehangach ar gyfer y diweddariadau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn.

3. Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

Dyma fy adroddiad olaf i’r Pwyllgor fel Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru. Mae’n gyfle addas i fyfyrio gyda balchder ar y cynnydd a wnaed dros y 18 mis diwethaf ac i gydnabod yr ymdrech ar y cyd sydd y tu ôl iddo. Hoffwn hefyd ddiolch o waelod fy nghalon i’r Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor am eich cefnogaeth barhaus, am fy herio’n adeiladol, ac am eich ymrwymiad drwy gydol y cyfnod hwn.

Ers cyfarfod â thema diwethaf WFAC ym mis Mai, mae tîm Cymru wedi parhau i fwrw ymlaen â rhaglen eang o ymgysylltu strategol a gweithgarwch cyflawni. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at ddatblygiadau allweddol ers fy niweddariad diwethaf ac at y meysydd lle mae ymgysylltu â phartneriaid, awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid yn helpu i lunio cynnydd.

Yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai, cadarnhawyd bod yr ASB yng Nghymru yn rhan o gylch gwaith Nerys Evans AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol. Mae’r tîm yn hwyluso ymgysylltiad â Gweinidogion ac Aelodau allweddol o’r Senedd er mwyn dechrau meithrin perthnasoedd, codi ymwybyddiaeth o’n blaenoriaethau, a chefnogi cydweithio effeithiol â’r weinyddiaeth newydd.

Mae’r tîm hefyd yn cynnal momentwm cryf wrth fwrw ymlaen ag argymhellion Llywodraeth Cymru yn ei hadolygiad o swyddogaeth yr ASB yng Nghymru. Mae cynnydd i’w weld ar draws pob maes, gyda’r Grŵp Goruchwylio’n cwrdd yn ddiweddar i adolygu cyflawniad, profi cynnydd, a helpu i sicrhau bod y gwaith yn parhau i fynd yn ei flaen mewn ffordd gydlynol a phwrpasol.

Rwyf wedi parhau i gynnal ymgysylltiad rheolaidd ac agos â rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig awdurdodau lleol a Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd yng Nghymru, gan gydnabod eu rôl hanfodol o ran cyflawni a sicrwydd. Mae trafodaethau diweddar wedi canolbwyntio ar argymhellion adolygiad Llywodraeth Cymru, Cofrestru Manylach, a’r rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’.

Dros y chwarter diwethaf, mae’r timau polisi yng Nghymru wedi parhau i wneud cynnydd cadarn ar draws nifer o ffrydiau gwaith pwysig, gan gynnwys:

  • parhau i arwain ar waith paratoi SPS yn ein cylch gwaith ehangach ar gyfer safonau bwyd, sy’n cynnwys sicrhau bod ystyriaethau polisi, deddfwriaethol a gweithredol sy’n benodol i Gymru yn cael eu hadlewyrchu wrth i’r rhaglen ddatblygu. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Defra ar bob elfen o’r gwaith, gan gynnwys ymgynghori â’r cyhoedd, a pharatoi busnesau ac awdurdodau lleol.

  • cynnal cyfarfod cyntaf yr Is-grŵp Atchwanegiadau Bwyd newydd, lle trafodwyd fitamin D – a ddewiswyd oherwydd bod digwyddiadau wedi codi’n rheolaidd lle roedd fitamin D yn cael ei werthu uwchben y meintiau canllaw, neu a oedd yn cynnwys mwy na’r dos oedd ar y label. Arweiniodd hyn, mewn rhai achosion, at wenwyndra fitamin D yr oedd angen ei drin yn yr ysbyty. Mae hyn wedi arwain at raglen o waith dilynol i atgyfnerthu canllawiau a chefnogi cydymffurfiaeth.

  • cynnal digwyddiad i randdeiliaid ynghylch codi tâl ar safleoedd cig ddechrau mis Mehefin, a roddodd gyfle gwerthfawr i ymgysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid, egluro’r gwaith sydd ar y gweill, a chasglu adborth cynnar i helpu i lywio’r camau nesaf. Rydym wrthi’n dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer system ddiwygiedig o gefnogaeth ariannol i ladd-dai a sefydliadau trin helgig, a ddaeth i ben ar 12 Mehefin. Bydd cynigion terfynol yn cael eu rhannu gyda’r Bwrdd maes o law i’w hystyried a’u cytuno.

  • bwrw ymlaen â phecyn eang o geisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig, gan gynnwys 16 cais ar gyfer cynhyrchion wedi’u heplesu’n fanwl, y cais anarferol sy’n cynnig dirymu awdurdodiad yn sgil diogelwch bwyd anifeiliaid, a’r cais ar gyfer bwyd newydd traddodiadol (cnau kenari). Byddwn yn ymgynghori ar y cynhyrchion hyn dros yr haf.

  • datblygu canllawiau penodol i Gymru ar waith gorfodi bwydydd newydd, a fydd yn cefnogi swyddogion gorfodi awdurdodau lleol i gymhwyso a gorfodi’r rheoliadau Bwydydd Newydd yng Nghymru, gan egluro’r fframwaith deddfwriaethol a’r offer gorfodi sydd ar gael pan nodir achosion o ddiffyg cydymffurfio. Yn yr un modd, mae canllawiau ar waith gorfodi CBD yn cael eu datblygu fel y gellir eu cyhoeddi cyn unrhyw awdurdodiadau CBD posib.

Mae ein timau cyflawni, sy’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac yn arwain gweithgarwch archwilio rheoleiddiol a diogelu defnyddwyr yng Nghymru, hefyd wedi bod yn bwrw ymlaen ag ystod o waith pwysig, gan gynnwys:

  • parhau i gefnogi awdurdodau lleol yn ystod cyfnod pontio’r Model Gweithredu Safonau Bwyd (FSDM). Mae tair sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb, yn edrych ar astudiaethau achos, wedi’u trefnu ar gyfer mis Gorffennaf yn Llangefni, Caerdydd a Llandrindod. Rydym hefyd wedi cyflwyno dwy sesiwn gyda chynrychiolwyr o Gynghorau Dosbarth Gogledd Iwerddon i ymdrin yn benodol â’u Systemau Gwybodaeth Reoli – mae hyn wedi hwyluso arddangosiadau ymarferol o sut y bydd systemau’n newid ar ôl i’r FSDM gael ei roi ar waith yn llawn.

  • mynychu Cynhadledd Sefydliad Siartredig Safonau Masnach (CTSI) i gyflwyno Gwobr Bwyd Steve Whitehouse. Llongyfarchiadau i Selina Griffiths o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a gafodd ei henwi’n Fyfyrwraig y Flwyddyn Safonau Bwyd Cymru. Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i gydnabod cyfraniad talent sy’n dod i’r amlwg ym maes safonau bwyd, i gryfhau ein cysylltiadau â chydweithwyr safonau masnach, ac i ddangos pwysigrwydd datblygiad proffesiynol ar draws y gymuned reoleiddio yng Nghymru.

  • dod â Grŵp Pysgod Cregyn Awdurdodau Lleol Cymru gyfan ynghyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu yn dilyn argymhellion archwiliad molysgiaid dwygragennog byw yr UE yn 2025. Mae’r cyfarfod hwn yn rhan o gyfres ehangach o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r diwydiant ac awdurdodau lleol.

  • mae’r tîm archwilio rheoleiddiol yng Nghymru wedi cwblhau dau archwiliad awdurdod lleol yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn. Gwnaeth yr archwiliadau ganolbwyntio ar weithgarwch samplu, ac adolygu camau gweithredu agored perthnasol o archwiliadau blaenorol. Dyma gam pwysig wrth gryfhau sicrwydd ynghylch gweithgarwch samplu, a bydd yn helpu i lywio archwiliadau yn y dyfodol wrth i’r rhaglen barhau i ddatblygu. Mae archwiliadau pellach wedi’u trefnu ar gyfer nes ymlaen yn y flwyddyn, a chaiff adroddiad cryno ei gyhoeddi ar ddiwedd y rhaglen.

  • cyhoeddodd y tîm digwyddiadau Rybudd Bwyd er Gweithredu (FAFA) i ddiogelu defnyddwyr a chefnogi busnesau wrth iddynt ymateb i bryderon difrifol yn gysylltiedig â bwydydd wedi’u rhewi a gynhyrchir o dan yr enwau brand Inarah’s Frozen Foods, Inarah’s Fine Foods a New York Crispy. Roedd y troseddau a nodwyd yn cynnwys defnydd twyllodrus o godau cymeradwyo ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, diffyg system rheoli diogelwch bwyd, a diffyg olrheiniadwyedd – gan dynnu sylw at bwysigrwydd camau rheoleiddio prydlon a chyfathrebu clir i helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

  • ar hyn o bryd, rydym yn comisiynu arolwg samplu gwyliadwriaeth blynyddol yr ASB yng Nghymru, sy’n rhoi cyfleoedd ariannu i awdurdodau lleol Cymru ymgymryd â gwaith targededig o ran samplu a phrofi cynhyrchion bwyd. Mae’r rhaglen hon yn helpu i nodi risgiau sy’n dod i’r amlwg a monitro cydymffurfiaeth â safonau, dilysrwydd a diogelwch bwyd ledled Cymru.

  • yn ddiweddar, llwyddodd Cyngor Abertawe i erlyn Kismet Kebabs ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedd cig oen a werthwyd gan y busnes yn cyd-fynd â’r hyn oedd ar y label o ran cynnwys cig. Cefnogwyd yr ymchwiliad gan Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr ASB a Thîm Diogelu Defnyddwyr Cymru, a rhoddwyd tystiolaeth ar ffurf samplau ychwanegol wedi’u hariannu gan dîm yr ASB yng Nghymru yn 2021.

Mae ein tîm cyfathrebu dwyieithog yng Nghymru wedi parhau i gryfhau cyrhaeddiad ac effaith negeseuon allweddol yr ASB ledled Cymru, gan gynnwys:

  • chwarae rhan allweddol yn y broses o fudo gwefan yr ASB i GOV.UK, gan sicrhau bod cynnwys penodol i Gymru a gofynion dwyieithog yn cael eu hadlewyrchu’n llawn. Mae hyn wedi cynnwys archwilio ac adolygu cynnwys Cymru, goruchwylio penderfyniadau ynghylch beth i’w fudo neu ei archifo, a gweithio’n agos gyda thimau eraill ar draws yr ASB a Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth, trwy lywodraethu prosiectau ac ymgysylltu’n rheolaidd. Mae Uned Gymraeg yr ASB wedi arwain ar y gwaith mudo, ac ar sicrhau ansawdd a chydymffurfiaeth cynnwys Cymraeg, wrth dynnu sylw hefyd at risgiau ac eirioli dros welliannau i brosesau a swyddogaethau’r platfform. Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud, gyda’r rhan fwyaf o’r cynnwys wedi’i fudo a chynllun lansio ar waith. Fodd bynnag, mae’r timau wedi parhau i godi risgiau pwysig ynghylch pa mor weladwy a hygyrch yw’r cynnwys Cymraeg ac ynghylch amserlenni cyfieithu er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth terfynol yn bodloni rhwymedigaethau statudol ac anghenion defnyddwyr yng Nghymru.

  • lansio ymgyrch ddiweddaraf yr ASB i ddefnyddwyr, ‘Stopia, Meddylia, Gweina’, i annog arferion hylendid bwyd mwy diogel yn ystod misoedd cynhesach yr haf. Lansiwyd yr ymgyrch ddechrau mis Mehefin, a bydd yn parhau drwy gydol yr haf, gan ganolbwyntio’n benodol ar hylendid bwyd wrth gynnal picnics a barbeciws. Yng Nghymru, rydym yn gweithio’n agos gyda thimau cyfathrebu awdurdodau lleol i helpu ein negeseuon i gyrraedd cynulleidfa ehangach, a hynny trwy becyn adnoddau dwyieithog a gwaith hyrwyddo ar draws ein sianeli cymdeithasol. Byddwn hefyd yn archwilio cyfleoedd cyfryngau sy’n benodol i Gymru ac yn defnyddio digwyddiadau allweddol – gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol – i ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau a dod â negeseuon diogelwch bwyd yr haf yn fyw.

  • parhau i ddatblygu a chyflwyno ein cynnwys camwybodaeth a thwyllwybodaeth, gan gynnwys fideo Cymraeg, a gynhyrchwyd yn fewnol, sy’n codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o achosion o alw bwyd yn ôl. Wrth i ni fonitro a gwerthuso cam cyntaf yr ymgyrch hon o ran ymgysylltiad a pherfformiad, rydym yn bwriadu teilwra ein cynnwys Cymreig yn y dyfodol – gan ddefnyddio cyfleoedd fel Tafwyl, Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod i greu cynnwys dwyieithog mwy dilys, sy’n cynrychioli Cymru’n well ac sy’n cynnwys safbwyntiau ar y materion sydd bwysicaf i ddefnyddwyr yng Nghymru.

4. Edrych ymlaen

Bydd llawer o’r gwaith a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn parhau dros y misoedd nesaf. Ochr yn ochr â hyn, bydd y tîm yn cynnal momentwm ar y prosiectau a’r ffrydiau gwaith canlynol, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i fod mewn sefyllfa dda i ddylanwadu ar flaenoriaethau allweddol, eu cyflawni a’u cefnogi.

Yr wythnos nesaf, yng nghwmni Cadeirydd WFAC, byddwn yn mynd i ddigwyddiad Y Farchnad yn y Senedd. Mae’r digwyddiad hwn, sydd ar ffurf marchnad, yn rhoi cyfle i sefydliadau fel yr ASB dynnu sylw at ein gwaith ac egluro sut y gallwn gefnogi Aelodau’r Senedd a’u hetholwyr gyda materion a phryderon diogelwch bwyd. Bydd hefyd yn gyfle pwysig i ni gyflwyno’r ASB a’n blaenoriaethau i Aelodau newydd y Senedd a’r rhai sy’n dychwelyd i’r Senedd.

Cynhelir digwyddiad ymgysylltu ag awdurdodau lleol wyneb yn wyneb yn Llandrindod ddechrau mis Gorffennaf i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ffrydiau gwaith sy’n rhan o’r rhaglen Dyfodol Rheoleiddio Bwyd (gan gynnwys cofrestru), a’r diweddaraf am y Cytundeb SPS. Byddwn hefyd yn defnyddio’r cyfle hwn i rannu’r diweddaraf am amrywiol brosiectau sydd ar y gweill, fel y prosiect data awdurdodau lleol a’r Model Gweithredu Safonau Bwyd.

Y mis hwn, bydd Cadeirydd yr ASB a Chadeirydd WFAC yn mynd i Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, sy’n rhoi cyfle pwysig i ni gryfhau ein hymgysylltiad â Gweinidogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ar draws y sectorau bwyd a ffermio. Bydd yr ymweliad yn helpu i feithrin perthnasoedd, codi ymwybyddiaeth o rôl yr ASB yng Nghymru, a chefnogi trafodaeth o flaenoriaethau allweddol, gan gynnwys diogelwch bwyd, gwydnwch, a’r Strategaeth Fwyd newydd arfaethedig i Gymru. Mae tîm Cymru’n cydlynu rhaglen dargededig i sicrhau bod y gwaith ymgysylltu’n ystyrlon, yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau polisi cyfredol, ac yn ymatebol i fuddiannau rhanddeiliaid.

Byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau diwygiedig yr ASB ynghylch lleihau’r risg y bydd grwpiau sy’n agored i niwed yn dal listeriosis, sy’n berthnasol i feysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Mewn ymateb i adborth gan awdurdodau lleol a busnesau bwyd sy’n gweithredu yn y meysydd hyn, mae’r canllawiau wedi’u diweddaru i’w gwneud yn gliriach ac yn haws eu dilyn.

Bydd ein gwaith parhaus ar orsensitifrwydd i fwyd yn cynnwys cefnogi digwyddiad ymgysylltu sydd wedi’i gynllunio mewn perthynas â’r strategaeth alergedd genedlaethol, yn amodol ar gadarnhad o ran trefniadau gweinidogol.

Mae Bwrdd yr ASB yn ymweld â Chymru ddwywaith y flwyddyn, a bydd ei ymweliad nesaf ar 16 Medi, ar gyfer cyfarfod yng Ngwesty’r Delta Marriott yn Abertawe. Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer ymweliadau a fydd yn arddangos busnesau bwyd Cymru ac yn tynnu sylw at gryfder, amrywiaeth ac arloesedd sector bwyd Cymru.

Ac yn olaf, fel y cyfeiriwyd ato yn fy adroddiad blaenorol, rydym yn edrych ymlaen at fynd i Eisteddfod Genedlaethol eleni, sef Eisteddfod y Garreg Las yn Sir Benfro. Mae hyn yn gyfle gwerthfawr i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r cyhoedd, drwy ein cydweithwyr o bob cwr o’r ASB yn gwirfoddoli ar ein stondin wybodaeth ryngweithiol.