Datganiad i'r wasg

Y cyfraddau cyflogaeth uchaf erioed yng Nghymru

Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol

  • Mae’r lefel cyflogaeth yng Nghymru 13,000 yn uwch dros y chwarter a 31,000 yn uwch dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd cyflogaeth bellach ar ei lefel uchaf erioed, sef 74.2%, sy’n uwch na’r gyfradd uchaf flaenorol, sef 74.0%.
  • Mae’r lefel diweithdra yng Nghymru 1,000 yn is dros y chwarter ac yn parhau heb newid dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd diweithdra bellach yn 4.3%.
  • Mae cyfanswm cyflogaeth y DU 42,000 yn uwch dros y chwarter a 313,000 yn uwch dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd cyflogaeth bellach yn 75.6%.
  • Mae cyfanswm diweithdra y DU 65,000 yn is dros y chwarter a 124,000 yn is dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd diweithdra ar ei hisaf erioed, sef 4.0%.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r ffigurau anhygoel hyn yn dangos bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o greu swyddi cynaliadwy ledled Cymru, sy’n parhau i dyfu bob blwyddyn.

Mae’n amlwg bod ymrwymiad diysgog Llywodraeth y DU i hyrwyddo cyfleoedd allforio ar gyfer busnesau yng Nghymru ac annog mewnfuddsoddiad o bell ac agos wedi creu amgylchedd economaidd sy’n helpu i greu mwy o swyddi a ffyniant ledled Cymru.

Er ei bod hi’n wych gweld bod lefelau diweithdra yn y DU ar eu hisaf erioed, byddaf yn parhau i ddangos cryfder economi Cymru dros y byd i gyd ac annog mewnfuddsoddiad o dramor. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i gystadlu gyda’r goreuon o wledydd eraill y DU a thu hwnt.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 14 August 2018