Datganiad i'r wasg

‘Rhaid i economi Cymru sefyll ar ei draed ei hun’

Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n trafod cronfa’r Undeb Ewropeaidd a’i heffaith ar Gymru, i BBC Wales Politics.   Gweler yr holl erthyglau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n trafod cronfa’r Undeb Ewropeaidd a’i heffaith ar Gymru, i BBC Wales Politics.   Gweler yr holl erthyglau yma

‘Rhaid i economi Cymru sefyll ar ei draed ei hun’

Gan Cheryl Gillan **Ysgrifennydd Gwladol Cymru **

Caiff y penderfyniadau sydd i’w gwneud gan yr Undeb Ewropeaidd yn y misoedd nesaf effaith uniongyrchol arnom i gyd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) a Chronfeydd Strwythurol a Chydlyniant yn cyfrif am oddeutu tri chwarter o gyllideb gyflawn yr UE.

Mae Cymru, ers tro byd, wedi bod yn derbyn arian o’r Cronfeydd Strwythurol a chyllid Datblygu Gwledig ac maent wedi bod yn gefn i fusnesau, cymunedau ac i unigolion ledled y wlad.

Fel Ysgrifennydd Gwladol, fy ngweledigaeth tymor hir i Gymru yw am economi egniol a chynaliadwy sy’n sefyll ar ei draed ei hun, ac yn edrych at ein hentrepreneuriaid a’n cwmniau egniol ifanc am dwf, yn hytrach na mynd at y sector gyhoeddus (pa un ai yng Nghaerdydd, Llundain neu Brwsel) am gefnogaeth.

Dyna pam ein bod fel llywodraeth yn gwneud popeth y gallwn i ddarparu’r cyflyrau gorau am dwf yn y sector preifat, ac mae masnachu a buddsoddi’n ganolog i’r hyn rydym am ei gyflawni wrth inni ail adeiladu’n economi.

Os yw busnesau yng Nghymru am dyfu, mae’n hanfodol bod Busnesau Bach a Chanolig yn cael y gefnogaeth a’r anogaeth sydd ei angen arnynt er mwyn gallu masnachu’n rhyngwladol a chystadlu’n fwy effeithiol am gyfleoedd allforio - a chreu swyddi.

Ein rol fel llywodraeth yw bod yn gefn i’r sector preifat.

Rwy’n falch fod rowndiau mwyaf diweddar y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru wedi bod ynghylch gwneud hynny - cefnogi busnes a gwella’r rhwydwaith mewnol (fel band llydan) y dibynnir arnynt gan fusnesau.

Fodd bynnag, mae’n rhaid inni sicrhau cyllid UE gyflawn sy’n cynrychioli gwerth am arian i drethdalwr y DU - ac sy’n adlewyrchu’r ffaith bod pyrsiau gwledydd ledled yr UE yn dynnach.

Roedd cynnig agoriadol y comisiwn ym mis Mehefin yn hynod o siomedig, yn codi gwariant yr UE dros 100 biliwn ewro mewn termau real dros y cyfnod i 2020 o lefel gwirioneddol y gwariant yn 2011.

Mae hyn yn awgrymu cyfraniadau ychwanegol i’r DU o £1.5biliwn y flwyddyn o’i gymharu a gwir rewi’r gyllideb ar y lefelau cyfredol.

Ym mis Rhagfyr, roedd y Prif Weinidog yn berffaith glir na ddylai taliadau’r UE gynyddu ddim mwy na chwyddiant - ac mae cynnig y comisiwn yn aflwyddo’r prawf hwn.

Mewn rhywbeth oedd yn arddangos fel cyfrifo anarferol, roedd y comisiwn yn cynnig cuddio 18biliwn ewro ychwanegol o’r gyllideb o’i gymharu a’r cwmpas gwariant cyfredol (2007-13), yn ogystal a gofyn am drethi newydd annerbyniol i ariannu cyllideb yr UE.

Wrth gwrs, dim ond cychwyn ar gyfnod hir o drafod yw hyn.

Felly, tra byddwn yn disgwyl tan yn ddiweddarach eleni i weld manylion yr hyn mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ei gynnig, rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar ein holl opsiynau.

Bydd y rhain yn drafodaethau hir, ac nid oes unrhyw benderfyniadau wedi ei gwneud hyd yma.  Ond gallaf eich sicrhau y byddaf yn ymladd dros yr hyn fydd o les pennaf i Gymru.

Cyhoeddwyd ar 11 August 2011