Datganiad i'r wasg

Cwmni o Gymru yn cael Gwobr am Allforio gan y Bwrdd Masnach

Yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol yn cyflwyno Gwobr y Bwrdd Masnach i Sure Chill, sy'n gwmni technoleg o Gaerdydd.

Liam Fox meets Sure Chill

Heddiw (17 Mai 2019), cyflwynodd Dr Liam Fox AS, yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Wobr y Bwrdd Masnach i’r cwmni technoleg arloesol Sure Chill i gydnabod eu llwyddiant allforio.

Sefydlwyd Sure Chill yng Nghaerdydd yn 2011, ac mae eu technoleg oeri arloesol yn diogelu brechlynnau sy’n achub bywydau mewn gwledydd sy’n datblygu. Gall eu hoergelloedd meddygol gadw pethau’n oer am hyd at 12 diwrnod heb bŵer ac mae’r dechnoleg hon wedi diogelu 20 miliwn o frechlynnau ym mhedwar ban byd.

Mae Gwobrau’r Bwrdd Masnach yn dathlu busnesau sydd wedi gwneud cyfraniad anhygoel at fasnach ryngwladol, boed hynny wrth hyrwyddo masnach rydd drwy allforio, dod â buddsoddiad i’r DU, neu arddangos agwedd arloesol wrth ehangu i farchnadoedd rhyngwladol.

Meddai Dr Liam Fox AS, yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol a Llywydd y Bwrdd Masnach:

Rydw i’n falch iawn o gael cyflwyno Gwobr y Bwrdd Masnach i Sure Chill heddiw yng Nghymru. Mae llwyddiant y cwmni yn Affrica ac Asia yn enghraifft wych o sut gall allforio wella bywydau pobl mewn gwledydd sy’n datblygu sy’n bell iawn o’r DU.

Mae busnesau fel Sure Chill yn hybu economi Cymru ac yn arddangos arloesedd ac entrepreneuriaeth Cymru ar ei orau.

Mae oergelloedd Sure Chill yn newid bywydau drwy wella gofal iechyd ac amodau byw mewn gwledydd ledled Affrica ac Asia - yn enwedig y rheini sydd heb gyflenwad pŵer dibynadwy. Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n allforio i dros 50 o wledydd yn cynnwys Cenia, Nigeria, Mali, Pacistan a Nepal, gyda’r bwriad i ehangu i farchnadoedd newydd yn Ne America a thaleithiau’r Gwlff.

Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Sure Chill yn stori lwyddiant o Gymru a fydd yn ysbrydoli eraill ac mae ganddynt enw da yn rhyngwladol am dechnoleg oeri arloesol sy’n achub bywydau. Hoffwn eu llongyfarch am gael y Wobr hon am Allforio gan y Bwrdd Masnach sy’n cadarnhau eu bod yn gwmni allforio o’r radd flaenaf ac yn gyfrannwr sylweddol at economi Prydain.

Mae Llywodraeth y DU yn barod i gefnogi pob busnes o Gymru sydd am ddilyn ôl troed Sure Chill, drwy ddarparu rhwydwaith eang o gefnogaeth i’w helpu i ddatblygu ac ehangu i farchnadoedd newydd ym mhedwar ban byd.

Mae Sure Chill eisoes wedi ymddangos yn ymgyrch Exporting is GREAT yr Adran Masnach Ryngwladol. Sefydlwyd yr ymgyrch honno i ysbrydoli mwy o fusnesau i allforio drwy hyrwyddo llwyddiant busnesau o Brydain mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Y llynedd, ymunodd Prif Weithredwr Sure Chill, Nigel Saunders, â’r Prif Weinidog Theresa May ar daith i Dde Affrica, Nigeria a Chenia i archwilio cyfleoedd masnachu a buddsoddi newydd ar gyfer busnesau o’r DU ledled cyfandir Affrica.

Meddai Nigel Saunders, Prif Weithredwr Sure Chill:

Rydw i wrth fy modd i dderbyn y wobr hon sy’n cydnabod taith Sure Chill i fod yn gwmni byd eang llwyddiannus gyda’i wreiddiau yng Nghymru.

Rydym yn adnabyddus yn y farchnad brechlynnau ac rydym bellach yn archwilio dulliau masnachol eraill o ddefnyddio’r dechnoleg gan weithio â brandiau mawr sy’n gorfod cadw eu cynnyrch yn oer.

Mae ein huchelgais yn ein gyrru i gynnig gwasanaethau gwahanol wrth ehangu i farchnadoedd rhyngwladol newydd, gan ledaenu’r effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol ymhellach wrth weddnewid agweddau ar sut i gadw cynnyrch yn oer. Byddwn yn cyflawni hyn drwy arbenigedd ein tîm, ein hagwedd arloesol a’n cymhelliant i wneud gwahaniaeth.

Yn nes ymlaen brynhawn Gwener, bydd y ddau Ysgrifennydd Gwladol yn cydnabod llwyddiant arweinwyr busnes ysgogol a dyfeisgar yng Nghymru drwy gyflwyno gwobrau iddynt mewn digwyddiad a drefnir gan Sefydliad y Cyfarwyddwr (IoD) yng Nghaerdydd.

Mae disgwyl i Dr Fox gymeradwyo arloesedd cwmnïau o Gymru yn fyd-eang a’u cyfraniad at ddyfodol llewyrchus i fasnach yng Nghymru. Mae disgwyl iddo ddweud:

A finnau’n Weinidog Masnach, rydw i bellach wedi ymweld â thua 40 o wledydd ac rydw i wedi sylweddoli bod agweddau at fusnes yn dadlennu llawer am y gymdeithas yno.

Mae gwobrau heddiw yn datgelu llawer am yr hyn sy’n werthfawr yng Nghymru.

Mae yna wobrau i fusnesau bach a mawr. Gwobrau i fusnesau teuluol a busnesau newydd, gwobrau i gyfarwyddwyr ifanc a chyfarwyddwyr cynhwysol, a gwobrau i fusnesau sy’n torri tir newydd neu sy’n gymdeithasol-gyfrifol. […] Pan fydda i’n arwain cenhadaeth fasnach dramor dwi’n clywed y negeseuon hyn dro ar ôl tro: mae gan y DU enw da am gyfuno arloesedd gyda safonau uchel, yn cynnwys ansawdd ein cynnyrch, proffesiynoldeb ein gwasanaethau, a’n safonau amgylcheddol a chymdeithasol uchel.

Meddai Robert Lloyd Griffiths OBE, Cyfarwyddwr IoD Cymru:

Rydw i wrth fy modd bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymuno â ni ar gyfer ein seremoni wobrwyo. Mae busnesau ledled Cymru yn gwneud eu gorau glas i gyfrannu at yr economi ac mae ein haelodau yn parhau i gael effaith gadarnhaol yng Nghymru, yn y DU ac yn fyd-eang.

Mae gwobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru yn cydnabod y talent gorau a llwyddiannau Cyfarwyddwyr.

Rydym yn grediniol bod Cyfarwyddwyr gwych yn creu busnesau gwych a bod hyn yn arwain at economi gryfach.

Cyhoeddwyd ar 17 May 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 May 2019 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.