Datganiad i'r wasg

Cwmnïau Cymru yn ennill contractau uwchgynhadledd NATO

Mae tri chwmni yng Nghymru ymysg y cyntaf a gyhoeddwyd fel cynigwyr llwyddiannus am gontractau ar gyfer uwchgynhadledd NATO fis Medi yma.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
NATO logo

NATO Summit logo

Byddan nhw’n gweithio gyda Llywodraeth y DU dros yr wythnosau nesaf i ddarparu’r seilwaith y tu cefn i’r cynulliad mwyaf o arweinwyr y byd sydd erioed wedi cael ei gynnal yn y DU.

Byddan nhw i gyd yn gweithio gyda’r cwmni cynhyrchu M-is sydd wedi ennill y contract i gynhyrchu’r digwyddiad yn gyffredinol. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad o gynhyrchu digwyddiadau mawr i lywodraethau, corfforaethau byd-eang a chwaraeon yn y DU ac ym mhedwar ban byd, mae M wedi rhoi cynnig llwyddiannus ar gyfer contract NATO. Yn gweithio ochr yn ochr â nhw fydd:

Aggreko

Gyda chanolfan weithredol ym Mhort Talbot, bydd y darparwr pŵer dros dro Aggreko yn darparu’r pŵer ychwanegol sydd ei angen i gyflenwi lleoliadau ar draws y safle gan gynnwys ar gyfer y 1,200 aelod o’r cyfryngau rhyngwladol a ddisgwylir i fod yn bresennol.

Floorex

Mae gan Floorex o Gwmbrân bron i 30 mlynedd o brofiad o ddarparu carpedi a gorchuddion llawr ar gyfer digwyddiadau mawr o Gwpan Ryder i Royal Ascot. Byddan nhw’n darparu ac yn gosod dros 7,000 metr sgwâr o loriau yn lleoliadau’r uwchgynhadledd.

Barnaby Road Markings

Mae Barnaby Road Markings yn fusnes teuluol sy’n cael ei arwain gan y prif beiriannydd Carl Barnaby a bydd y cwmni’n helpu i weddnewid Gwesty’r Celtic Manor yn lleoliad ar gyfer yr uwchgynhadledd drwy weithio ar y cynllun mewnol gyda M.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns:

Nid yn unig y bydd Uwchgynhadledd NATO yn arddangos Cymru i weddill y byd, ond mae’n dod â chyfleoedd busnes ffantastig i gyflenwyr yng Nghymru.

Dwi’n falch o weld bod cwmnïau Cymru yn bod yn gystadleuol ac yn ennill contractau a fydd yn darparu gwasanaethau hanfodol i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddo.

O garpedi a generaduron a marciau ffyrdd i estyll, bydd yr holl gydrannau bach hyn yn cyfrannu at y cynulliad mwyaf o arweinwyr y byd a fu erioed yn y DU.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Cyhoeddwyd ar 6 August 2014