Datganiad i'r wasg

Cwmnïau Cymru yn cael eu hannog i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys

Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn annog busnesau sy’n gweithredu yng Nghymru i rannu eu safbwyntiau mewn ymgynghoriad newydd gan…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn annog busnesau sy’n gweithredu yng Nghymru i rannu eu safbwyntiau mewn ymgynghoriad newydd gan y Llywodraeth sydd wedi cael ei gynllunio i leihau effaith polisiau ynni a newid hinsawdd ar gost trydan ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys.

Mae cwmniau yn cael eu hannog i gyfrannu at yr ymgynghoriad, a lansiwyd heddiw gan Vince Cable, yr Ysgrifennydd Busnes, a’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau am gyfnod o 11 wythnos, gan gasglu safbwyntiau ar y cynigion ar gyfer Pecyn Diwydiannau Ynni-ddwys gwerth £250 miliwn y Llywodraeth, a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn Natganiad yr Hydref 2011.

Dywedodd David Jones , Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Mae Cymru yn gartref i amrywiaeth o fusnesau sy’n poeni mwy a mwy am gynnydd mewn prisiau trydan. 
 

“Mae’r Llywodraeth yn amcangyfrif y bydd polisiau ynni a newid hinsawdd yn codi hyd at 28% ar gyfartaledd ar y prisiau trydan y bydd defnyddwyr ynni-ddwys mawr yn eu talu yn 2020. Mae’n gwbl briodol felly bod yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar gostau trydan yn bennaf er mwyn sicrhau bod diwydiannau’n aros yn gystadleuol.

“Mewn cyfnod economaidd mor heriol, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu i annog ein busnesau i dyfu, ac i sicrhau bod Cymru - a’r DU i gyd - yn lleoliad deniadol i ddiwydiannau fuddsoddi ynddo.

“Wrth i ni ddechrau symud at economi Carbon Isel, mae angen i ni sicrhau hefyd ein bod yn creu’r amodau priodol i wneud yn siŵr nad yw’r diwydiannau mwyaf ynni-ddwys yn cael eu rhoi o dan anfantais, a’u bod yn gallu cystadlu yn y farchnad fyd-eang.

“Byddwn yn annog diwydiannau yng Nghymru a phawb sydd a diddordeb i roi eu sylwadau ar y cynigion er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno’r pecyn cymorth gorau posibl iddynt.”
DIWEDD

  1. Yn Natganiad yr Hydref ar 29 Tachwedd 2011, cyhoeddodd y Canghellor bod y Llywodraeth yn bwriadu rhoi mesurau ar waith i leihau effaith polisiau ynni a newid hinsawdd ar gostau trydan y diwydiannau mwyaf ynni-ddwys, gan ddechrau yn 2013. Bydd hyn yn werth oddeutu £250 miliwn dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant.
  2.  Dylai unrhyw un sy’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am y cynigion a chyflwyno eu safbwyntiau ymweld a www.bis.gov.uk/eiip

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a:**Swyddfa Cymru** - Lynette Evans  029 2092 4204 / lynette.evans@walesoffice.gsi.gov.uk 
Swyddfa’r Wasg yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau - Andy Aston, 020 7215 6963 / andy.aston@bis.gsi.gov.uk **

Cyhoeddwyd ar 5 October 2012