Cymunedau Cymru yn cael mwy o gymorth i adeiladu prosiectau ynni lleol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd
Bydd cymunedau ledled Cymru yn cael hwb ariannol i adeiladu a rheoli eu cyflenwad ynni glân eu hunain, i helpu i leihau biliau, tyfu cyfoeth lleol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd – drwy’r buddsoddiad cyhoeddus mwyaf yn y DU mewn ynni cymunedol.
- Great British Energy yn cyflwyno’r don gyntaf o’r buddsoddiad mwyaf mewn ynni cymunedol cyhoeddus yn hanes y DU, i gefnogi mannau lleol i leihau biliau a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
- Gall grwpiau ynni cymunedol gael gafael ar fwy o gyllid i adeiladu eu prosiectau pŵer glân eu hunain.
- Bydd cymunedau’n cael cynnig cyfran-berchnogaeth mewn prosiectau ynni adnewyddadwy, gan sicrhau bod elw pŵer glân yn llifo’n ôl i ardaloedd lleol.
Bydd cymunedau ledled Cymru yn cael hwb ariannol i adeiladu a rheoli eu cyflenwad ynni glân eu hunain, i helpu i leihau biliau, tyfu cyfoeth lleol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd – drwy’r buddsoddiad cyhoeddus mwyaf yn y DU mewn ynni cymunedol.
Heddiw (17 Medi), mae Great British Energy yn lansio £30 miliwn o gyllid i sbarduno chwyldro pŵer cymunedol – y blaendaliad cyntaf ar hyd at £1 biliwn, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni - gyda’r nod o gefnogi dros 1000 o brosiectau ynni glân lleol a chymunedol ledled y DU.
Gan adeiladu ar ymrwymiad presennol Cymru i ynni cymunedol drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, bydd y cyllid newydd yn galluogi mwy o grwpiau ynni cymunedol i gyflymu cynlluniau ar gyfer prosiectau pŵer glân dan berchnogaeth leol - fel paneli solar ar adeiladau lleol, ffermydd gwynt sy’n eiddo i bentrefi, a chynlluniau hydro mewn afonydd cyfagos. Bydd hyn yn helpu i roi arian yn ôl ym mhocedi cymunedau ac yn eu galluogi i ymuno â gweithredoedd ar y newid yn yr hinsawdd ledled y DU, yn dilyn y tymereddau uchaf erioed a gafwyd yn ystod yr haf eleni oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Bydd y rhain yn eiddo i grwpiau ynni cymunedol, felly gall ardaloedd lleol elwa’n llawn, e.e. biliau is i wasanaethau lleol a sicrhau bod elw o’r pŵer glân a gynhyrchir yn llifo’n ôl i drefi a phentrefi, yn hytrach nag i gwmnïau ynni yn unig.
Ar ôl y tywydd poeth a’r tywydd eithafol a welwyd eleni, bydd y cyllid hwn yn ehangu cyfleoedd cymunedau i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gan adeiladu ar y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid cyflawni - gan eu grymuso i symud oddi wrth danwydd ffosil gyda’u cyflenwad ynni glân eu hunain a fydd yn helpu i leihau allyriadau a diogelu eu hardal leol.
Dywedodd Miatta Fahnbulleh, yr Ysgrifennydd Ynni:
Roedd pob un ohonom yn teimlo’n bryderus iawn am ein hinsawdd yn ystod y tymereddau uchaf erioed a gawsom yn ystod yr haf.
Cyn wythnos Hinsawdd Efrog Newydd, rydym ni’n rhoi pŵer yn nwylo pobl a lleoedd, er mwyn i fwy o gymunedau allu gweithredu.
Mae pawb yn haeddu cyfran o’n dyfodol ynni, a thrwy’r prosiectau pŵer lleol hyn gall cymunedau elwa’n llawn o ynni glân – gan leihau allyriadau, torri biliau, ac ailfuddsoddi elw er budd ardaloedd lleol, yn hytrach na chwmnïau ynni mawr.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Kinnock:
Bydd cymunedau ledled Cymru yn gallu adeiladu mwy o’u prosiectau ynni glân eu hunain gyda grantiau gan Lywodraeth y DU.
Mae’r prosiect hwn yn rhoi’r cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau yn nwylo pobl leol, gan roi’r pŵer iddyn nhw leihau biliau’r cartref a bod yn rhan o’n hymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Great British Energy, Dan McGrail:
Mae Great British Energy yn parhau i roi cymunedau wrth galon y broses o drawsnewid i ynni glân gyda Cronfa Gymunedol a Grant Partneriaethau GBE. Ein gweledigaeth yw y dylai pob cymuned gael cyfle i adeiladu a bod yn berchen ar ei hynni adnewyddadwy ei hun. Bydd y grantiau hyn yn rhoi’r cymorth ymarferol sydd ei angen ar fudiadau cymunedol ac awdurdodau lleol i roi prosiectau ynni glân ar waith - gan leihau biliau, cefnogi swyddi a rhoi manteision ynni mewn dwylo lleol.
Ochr yn ochr â chyllido prosiectau pŵer lleol penodol, bydd y llywodraeth hefyd yn nodi rhagor o fanylion yn yr hydref ar gynlluniau i grwpiau ynni cymunedol gael cynnig cyfran-berchnogaeth mewn prosiectau ynni adnewyddadwy.
Nod hyn yw creu partneriaethau rhwng cymunedau a datblygwyr, a fydd yn gweld yr elw o bŵer glân yn llifo’n ôl i ardaloedd lleol. Bydd yn golygu bod Prydain yn debyg i wledydd fel yr Almaen a Denmarc, lle mae’r math hwn o berchnogaeth eisoes yn cael ei ddefnyddio’n eang – gan alluogi cymunedau i elwa’n uniongyrchol ar bŵer glân lleol.
Mae nifer o bartneriaethau o’r fath eisoes yn cael eu datblygu yng Nghymru, a gallai’r gwaith gan GBE helpu i ehangu mynediad i fwy o gymunedau.
Nodiadau i Olygyddion
-
Mae perchnogaeth leol eisoes yn rhoi bywyd newydd mewn cymdogaethau ledled y wlad, gan adfywio tafarndai, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden. Ond ers gormod o amser, mae prosiectau ynni sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned wedi cael eu dal yn ôl gan ddiffyg cyllid, cyngor a chymorth gan y llywodraeth.
-
Mae Great British Energy yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i newid hyn, gan fod ceisiadau wedi agor heddiw am grantiau newydd i gefnogi prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru, yn y don gyntaf o hyd at £1 biliwn o gymorth i roi ynni glân yn ôl yn nwylo cymunedau.
-
Mae hyn yn adeiladu ar £9.5 miliwn y mae Great British Energy a Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i ddyrannu i osod paneli solar ar adeiladau cyhoeddus ledled Cymru, fel ysgolion, canolfannau hamdden ac amgueddfeydd, o dan Raglen Gyllido Cymru Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid hefyd wedi cefnogi cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru o’r enw Ymestyn, a fydd yn helpu cymunedau a’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gwblhau prosiectau fel canopïau solar a storfeydd ynni batri, i helpu i leihau biliau ynni ac allyriadau is. Mae cymorth Great British Energy a lansiwyd yng Nghymru heddiw yn cynnwys:
-
Cronfa Gymunedol gwerth £20 miliwn - yn cynnig cyllid grant i helpu mudiadau cymunedol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i brofi, datblygu ac adeiladu asedau ynni glân sy’n eiddo i’r gymuned. Rhaid i brosiectau a gefnogir gan y gronfa hon ddangos y bydd gan y gymuned fuddiant cyfreithiol ac ariannol diffiniedig yn y prosiect, ac y bydd cyfran ddiffiniedig o fuddion y prosiect yn cael ei chadw ar gyfer y gymuned leol, neu’n cael ei darparu iddi.
-
Gwasanaethau cynghori – mae Great British Energy hefyd yn cefnogi sefydliadau sy’n cynnig cyngor hanfodol i grwpiau lleol ar ddatblygu cynlluniau ynni cymunedol, gyda £2.8 miliwn o gymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
-
Mae Great British Energy hefyd yn gofyn am wybodaeth gan fuddsoddwyr i helpu i bennu maint a chwmpas ei gynnyrch ar gyfer y dyfodol.