Cymunedau Cymraeg yn cael eu hannog i ddod yn Arloeswyr Teledu Lleol
Croesawodd David Jones AS, Gweinidog Swyddfa Cymru, y newydd fod chwe thref yng Nghymru yn cael eu hystyried i baratoi’r ffordd ar gyfer gwasanaethau…
Croesawodd David Jones AS, Gweinidog Swyddfa Cymru, y newydd fod chwe thref yng Nghymru yn cael eu hystyried i baratoi’r ffordd ar gyfer gwasanaethau teledu lleol cyntaf y DU.
Dywedodd Mr Jones: “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant heddiw bod chwe thref yng Nghymru yn gallu cynnig am drwyddedi deledu lleol.
“Mae hwn yn amser cyffrous i ddarlledu yng Nghymru. Mae iddo’r potensial mawr i newid y ffordd y gall trefi yng Nghymru gael at newyddion a gwybodaeth. Bydd hefyd yn cryfhau eu gallu i ddal eu cynrychiolwyr i gyfrif. Rwy’n annog cymunedau lleol ym Mangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Hwlffordd, Yr Wyddgrug ag Abertawe i ddatgan yr achos dros gael teledu lleol yn eu hardal.”
Nodiadau:
- Ceir mwy o wybodaeth am y cyhoeddiad yn : http://www.culture.gov.uk/news/news_stories/8379.aspx.
- Cynhelir Uwchgynhadledd Teledu Cymru gyda Mr Hunt yng Nghaerdydd ar 26 Awst.