Datganiad i'r wasg

Busnesau Cymru’n cael eu hannog i hawlio taleb gwerth £2500 i roi hwb i fand eang

Mae busnesau yng Nghymru yn cael eu hannog i ddefnyddio taleb gwerth £2500 gan Lywodraeth y DU i gael band eang gigabid cyn i’r cynllun ddod i ben oherwydd cymaint o alw.

Computer

Mae Cynllun Talebau Band Eang Gigabid Llywodraeth y DU eisoes wedi helpu dros 7000 o fusnesau yn y DU a chartrefi cyfagos, sydd wedi defnyddio’r talebau i gyfrannu at (ac ariannu yn llawn mewn nifer o achosion) gostau gosod cysylltiad ffibr llawn sy’n gallu delio â gigabid.

Yn wreiddiol roedd disgwyl i’r cynllun gwerth £67 miliwn redeg tan fis Mawrth 2021, ond mae’r galw uchel am dalebau’n golygu bod disgwyl i’r arian ddod i ben flwyddyn yn gynharach, ac efallai hyd yn oed cyn hynny os bydd llwyddiant cyfredol y cynllun yn parhau i dyfu.

Hyd yn hyn mae 58 o dalebau wedi cael eu rhoi i eiddo yng Nghymru ac mae Llywodraeth y DU yn galw ar fusnesau a thrigolion i wneud cais am y daleb cyn i’r cynllun ddod i ben.

Dywedodd Nigel Adams, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:

Mae gwella cysylltedd cartrefi a busnesau yn rhan ganolog o ymdrechion Llywodraeth y DU i gryfhau economi Cymru.

Mae cynllun talebau cysylltiad band eang Llywodraeth y DU yn boblogaidd dros ben. Mae cartrefi eisiau elwa o fand eang cyflym iawn ac mae angen i fusnesau fod wedi’u harfogi’n iawn ar gyfer holl sialensiau’r byd digidol rydyn ni’n byw ynddo. Rwy’n annog yr holl fusnesau a pherchnogion cartrefi cymwys i wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n colli allan ar y cynnig ardderchog yma.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Digidol, Margot James:

Mae ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern yn glir ynghylch pwysigrwydd cysylltedd, wrth i ni greu Prydain ffibr llawn sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae’r talebau hyn yn darparu cymorth ymarferol ac ar unwaith i gwmnïau sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â band eang araf. Rwyf yn annog busnesau bach o bob cwr o’r DU i wneud cais nawr.

I sicrhau bod gymaint â phosibl o fusnesau a chartrefi yn cael budd o’r cynllun, bydd uchafswm gwerth y daleb yn gostwng o £3000 fel y mae ar hyn o bryd i £2500 mewn ymgais i annog busnesau cyfagos i “gyfuno” eu talebau. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o gartrefi a busnesau yn gallu manteisio ar y cynllun heb unrhyw gyllid ychwanegol. Rydym yn rhagweld y bydd dros 1000 o gartrefi a busnesau ychwanegol yn elwa o’r newid hwn.

Bydd yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn monitro’n ofalus faint o bobl fydd yn manteisio ar y cynllun yn sgil y newid hwn yn y rheolau er mwyn penderfynu a ellir cyfiawnhau talebau o werth uwch mewn rhai lleoliadau.

Mae’r cynllun yn rhan o gyfres o fentrau gan y Llywodraeth i greu Prydain fydd â gwasanaeth band eang ffibr cenedlaethol llawn erbyn 2033, gan wneud yn siŵr nad oes unrhyw gymunedau yn cael eu gadael ar ôl. Yn ogystal â’r cynllun talebau, cyhoeddodd y Canghellor yn ddiweddar y byddai £200 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer dull gweithredu ‘o’r tu allan i mewn’ i gyflwyno gwasanaeth band eang ffibr llawn yn y lleoliadau gwledig mwyaf anodd eu cyrraedd cyn gyflymed ag yng ngweddill y wlad. Bydd cymoedd Cymru, y Gororau a Chernyw ymhlith yr ardaloedd cyntaf i gael eu targedu.

Meddai Mike Cherry, Cadeirydd Cenedlaethol y Ffederasiwn Busnesau Bach:

Mae band eang da yn hanfodol i fusnesau bach ledled y DU, a gan nad oes ond hyn a hyn o amser ar gael i fanteisio ar y cynllun hwn, mae’n bwysig nad yw busnesau bach yn oedi cyn gwneud cais am gyllid.

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Talebau Gigabit, gan gynnwys manylion ynghylch sut y gall busnesau wneud cais, ar gael yma

Nodiadau i Olygyddion

Mae’r crynodeb o dalebau a gyhoeddwyd yn ôl Rhanbarth/Gwlad yn seiliedig ar y sefyllfa fel yr oedd ar 30.10.18

(Mae manylion ychwanegol ar sail Awdurdod Lleol ar gael ar gais)

Rhanbarth/Gwlad Talebau a Gyhoeddwyd
De-orllewin Lloegr 1613
De-ddwyrain Lloegr 927
Swydd Efrog a’r Humber 871
Gogledd-orllewin Lloegr 745
Llundain 661
Gorllewin Canolbarth Lloegr 475
Dwyrain Lloegr 407
Dwyrain Canolbarth Lloegr 369
Gogledd-ddwyrain Lloegr 68
Gogledd Iwerddon 418
Yr Alban 315
Cymru 58
  1. Mae Cynllun Talebau Band Eang Gigabit yn rhan o’r rhaglen Rhwydweithiau Ffibr Llawn Lleol, sydd â’r amcan strategol o ehangu gwasanaeth ffibr llawn i bob rhan o’r DU.
  2. Lansiwyd ton gyntaf y rhaglen tua diwedd 2017 gyda’r nod o brofi dull gweithredu’r rhaglen o ran ysgogi’r farchnad. Dyrannwyd £10m ar gyfer lansio pum prosiect peilot ledled y wlad, gan gynnwys £2m at ddibenion profi’r farchnad o safbwynt y cynllun talebau. Nod lansio’r cynllun yn genedlaethol yw adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil profi’r farchnad.
  3. Gall busnesau bach a’r cymunedau lleol o’u cwmpas ddefnyddio talebau Gigabit. Mae busnesau yn gallu hawlio hyd at £2,500 tuag at eu costau cysylltu naill ai yn unigol neu fel grŵp. Gall trigolion elwa o’r cynllun ar ffurf taleb gwerth £500 fel rhan o grŵp.
  4. Rydym yn rhagweld y bydd £2,500 yn ddigon i dalu’r costau cysylltu unigol yng nghyswllt y mwyafrif o BBaCh y DU. Os nad yw hyn yn ddigon, gall BBaCh gyfuno eu talebau â BBaCh eraill neu â thrigolion lleol er mwyn rhannu costau. Rydym wedi ei gwneud yn haws i fwy o drigolion fod yn rhan o’r prosiectau hyn (nawr gall hyd at 10 o drigolion gymryd rhan fesul BBaCh).
  5. Erbyn hyn, mae gwasanaeth band eang cyflym iawn, gyda chyflymder o 24 megabit y funud neu fwy, ar gael yn 95% o ardaloedd y DU. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif o gysylltiadau cyflym iawn yn dibynnu o hyd ar wifrau ffôn copr ac mae’r cyflymderau y gall y rhain eu cynnal yn gyfyngedig. I gael y gwasanaeth band eang cyflymaf a mwyaf dibynadwy sy’n gallu cyflenwi cyflymderau gigabit, mae angen cysylltiad ffibr llawn.
  6. Mae un gigabit yr un fath â 1,000 megabit – felly mae hyn yn naid fawr ymlaen o ran cyflymder y cysylltiadau y gallech chi a’ch busnes elwa ohonynt yn y dyfodol. Mae ffibr llawn hefyd yn gallu cynnal cysylltiadau cymesur. Mae hyn yn golygu y gall cyflymderau llwytho i fyny a llwytho i lawr fod yr un fath.
Cyhoeddwyd ar 12 November 2018