Datganiad i'r wasg

‘Busnesau Cymru yn dal i berfformio’n well na phob disgwyl’: Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymateb i Ystadegau Marchnad Lafur y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, a ryddhawyd heddiw [16eg…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymateb i Ystadegau Marchnad Lafur y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, a ryddhawyd heddiw [16eg Mai 2012].

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod lefelau cyflogaeth a diweithdra wedi disgyn rhywfaint yng Nghymru. Mae’r lefelau diweithdra wedi disgyn dros y chwarter diwethaf, ond mae’r gyfradd wedi aros yr un fath a mis Mawrth.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yng Ngwlad Thai ar ymweliad masnach a buddsoddi pum diwrnod fel rhan o ymgyrch FAWR y Llywodraeth, a dywedodd:

“Rwy’n falch bod lefelau diweithdra wedi disgyn unwaith eto, er fy mod i’n ymwybodol y gall yr ansicrwydd economaidd mewn mannau eraill yn Ewrop gael effaith ar adferiad yr economi yma yn y DU.

“Mae diweithdra’n dal i fod yn annerbyniol o uchel ar 9.0%, ond er gwaethaf hyn, roedd yn galonogol clywed yr wythnos hon am y camau breision y mae busnesau o Gymru yn eu gwneud ar draws y byd. Yr wythnos hon, cefais weld cytundeb mawr gwerth £6m yn cael ei arwyddo rhwng Trysorlys Gwlad Thai a’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, De Cymru, ac mae General Dynamics wedi cyhoeddi cytundeb gwerth £5.5bn i gyflawni cerbydau arfog i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, a fydd yn diogelu ac yn creu cannoedd o swyddi newydd yng Nghymru.

“Fel rhan o’r Ymgyrch FAWR yr wythnos hon, rwyf wedi bod ar flaen y gad o ran sefydlu cysylltiadau cadarn gyda Gwlad Thai, Cambodia a Singapore wrth i ni ddal ati i sefydlu cysylltiadau masnach a diplomyddol cadarn gyda’r tair gwlad hon. Er mai gwlad fechan ydyn ni, rydyn ni’n dal i berfformio’n well na phob disgwyl ac yn rhagori ar hynny, a dyma’r math o agwedd arloesol, rhagweithiol a fydd o fudd i Gymru er mwyn iddi ddod yn ganolfan ar gyfer buddsoddiad a thwf rhyngwladol.”

Nodiadau i olygyddion:

Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn cyfrif y nifer sy’n ddi-waith ond sydd eisiau swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; hefyd y rheini sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i waith ac sy’n disgwyl dechrau yn y pythefnos nesaf.

Cyhoeddwyd ar 16 May 2012