Datganiad i'r wasg

Dathlu ardderchogrwydd busnesau Cymru yng Ngwobrau Busnes Cymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflwyno’r brif araith mewn digwyddiad busnes yng Nghaerdydd

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu cyflawniadau rhai o gwmnïau mwyaf dynamig Cymru heno (dydd Iau, 8 Mawrth) yng Ngwobrau Busnes Cymru yng Nghaerdydd.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn siarad mewn digwyddiad blynyddol y Siambrau Masnach yn Neuadd y Dref, lle bydd y busnesau gorau o Gymru, mewn amrywiaeth eang o sectorau, yn cael eu gwobrwyo am eu cyfraniad i economi Cymru.

Bydd Mr Cairns yn dweud wrth y gynulleidfa:

Ers 2010, bu Llywodraeth y DU yn gweithio mewn partneriaeth agos â Siambrau Masnach Cymru. Mae’r rhwydwaith unigryw hwn drwy’r wlad yn gyfrwng pwerus nid yn unig i hyrwyddo busnes gartref, ond er mwyn agor cyfoeth o gyfleoedd allforio o gwmpas y byd.

Fel yr ydw i’n teithio o gwmpas y wlad, rydw i’n cael fy ysbrydoli gan yr hyn yr wyf yn ei weld. Rydw i’n gweld y llwyddiannau a’r methiannau. Rydw i’n gweld yr ebyrth y mae’n eu cymryd i lwyddo; y risgiau a’r gwobrwyon – y llawenydd a’r rhwystredigaeth.

Ac mae’n llawer rhy hawdd i ganolbwyntio ar yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ac anghofio dathlu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud. Dyna pam y mae’r gwobrau hyn mor bwysig.

Diolch i arweinwyr busnes fel chi yw mai Cymru yw’r wlad a oedd yn tyfu gyflymaf yn y DU yn ystod 2016 a Chaerdydd oedd y brifddinas a oedd yn tyfu gyflymaf.

Diolch i chi yw bod allforion Cymru gwerth dros £16biliwn y flwyddyn.

A diolch i chi yw bod twf economaidd yn ymwreiddio drwy’r wlad i gyd.

Eich busnesau chi yw’r peiriannau sy’n creu swyddi trwy’r wlad, ac rydw i wrth fy modd gweld eich ymdrechion a’ch cyflawniadau chi yn cael eu cydnabod yma heno.

Cyhoeddwyd ar 8 March 2018