Datganiad i'r wasg

Bydd Diwygio Lles yn sicrhau bod gweithio yn rhywbeth sy’n talu yng Nghymru meddai David Jones

Bydd cyflwyno un Credyd Cyffredinol syml yn rhoi hwb i filoedd o deuluoedd tlotaf Cymru allan o’r sefyllfa druenus o fod yn ddibynnol ar fudd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd cyflwyno un Credyd Cyffredinol syml yn rhoi hwb i filoedd o deuluoedd tlotaf Cymru allan o’r sefyllfa druenus o fod yn ddibynnol ar fudd-daliadau ac yn eu hannog yn ol i fyd gwaith meddai David Jones, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, heddiw. 

Mae’r Papur Gwyn ar Ddiwygio Lles - Credyd Cyffredinol:  Lles sy’n Gweithio - a gyhoeddwyd heddiw gan Iain Duncan Smith, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn symleiddio budd-daliadau diweithdra, Budd-daliadau Tai a Chredydau Treth drwy eu cyfuno’n un taliad lles a fydd yn gwobrwyo pobl am fynd i weithio.    

Wrth groesawu’r diwygiadau, dywedodd David Jones: “Bydd y Credyd Cyffredinol yn sicrhau bod gwaith bob amser yn rhywbeth sy’n talu ac yn helpu miloedd o’n teuluoedd tlotaf yma yng Nghymru allan o dlodi drwy dorri’r cylch o ddibyniaeth ar fudd-daliadau.

“Mae dros hanner miliwn o bobl economaidd anweithgar yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae astudiaeth ddiweddar yn awgrymu bod cynifer ag un o bob pum plentyn yng Nghymru’n cael ei fagu mewn teulu lle nad yw’r un o’r ddau riant yn gweithio.  Heb sgiliau, hyder na modelau rol cadarnhaol, bydd y bobl ifanc hyn yn cael eu dal mewn diwylliant o gylch budd-daliadau a fydd yn  melltithio bywydau yng Nghymru am genedlaethau i ddod.

“Gyda 226,000 o deuluoedd yng  Nghymru heb waith ac yn ddibynnol ar fudd-daliadau, yma y ceir y gyfradd ddiweithdra uchaf ond un yn y DU.  Mae’n rhaid inni sicrhau bod y trasiedi hwn yn dod i ben er mwyn atal teuluoedd Cymru yn y dyfodol rhag cael eu dal mewn diwylliant o ddiweithdra ac anobaith.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Drwy ailwampio’r system budd-daliadau fel hyn, byddwn hefyd yn sicrhau bod pobl yng Nghymru bob amser yn llawer mwy cyfforddus eu byd wrth weithio.  Bydd y Credyd Cyffredinol yn dod a thegwch a symlrwydd unwaith eto i system budd-daliadau gymhleth, hen ffasiwn a drud sy’n aml yn rhwystro pobl rhag symud yn ol i fyd gwaith.

“Bydd y taliad unigol newydd yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng y wladwriaeth les fel rhwyd ddiogelwch a system budd-daliadau sy’n cyfleu’r neges iawn - os ydych chi’n gallu gweithio, fe ddylech chi weithio - a bydd y newidiadau a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau bod gweithio yn rhywbeth sy’n talu, hyd yn oed yng nghyswllt y rhai tlotaf weithio.  Mae hyn yn newyddion da a bydd yn newid agweddau tuag at waith am genedlaethau i ddod.”

Cyhoeddwyd ar 11 November 2010