Datganiad i'r wasg

Rhaid helpu Teuluoedd Cymru I gefnu ar y Diwylliant Budd-Daliadau, meddai Ysgrifennydd Cymru

Heddiw, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, y bydd pobl ddiymgeledd sy’n methu dianc rhag y sefyllfa druenus o fod yn ddibynnol ar fudd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, y bydd pobl ddiymgeledd sy’n methu dianc rhag y sefyllfa druenus o fod yn ddibynnol ar fudd-daliadau, yn cael cymorth i fynd yn ol i fyd gwaith neu i gael hyfforddiant wrth i’r Llywodraeth weddnewid y system les.

Mae’r Ystadegau diweddaraf ar gyfer y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw (11 Awst 2010) yn dangos bod y lefel Anweithgarwch Economaidd yn 502,000 ar hyn o bryd yng Nghymru, gan gynyddu 7,000 ers y chwarter diwethaf. Mae cyfradd Anweithgarwch Economaidd Cymru yn 26.5 y cant, yr ail uchaf yn y DU ar ol Gogledd Iwerddon.

Wrth son am y ffigurau, dywedodd Mrs Gillan: “Rwy’n falch iawn o glywed bod y gyfradd ddiweithdra a’r lefel ddiweithdra yng Nghymru wedi gostwng dros y tri mis diwethaf. Fodd bynnag, mae dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru [502,000] yn awr yn cael eu hystyried yn Economaidd Anweithgar ac yn ddibynnol ar fudd-daliadau. Mae’n rhaid i ni roi diwedd ar y sefyllfa drychinebus hon cyn i deuluoedd y dyfodol yng Nghymru gael eu dal yn y diwylliant hwn o ddiweithdra ac anobaith.

“Dyna pam mae’r Llywodraeth hon wedi addo gweithredu i chwyldroi’r system fudd-daliadau aflwyddiannus sydd gennym ar hyn o bryd a’i disodli gydag un system ‘O Fudd-dal i Waith’. Bydd y system hon yn ei gwneud yn haws i bobl gael gwaith ac yn decach i’r rheini sy’n cyfrannu at y wladwriaeth les, a bydd hefyd yn parhau i roi cefnogaeth ddiamod i’r rheini y mae ei hangen arnynt.

 ”Yng Nghymru, mae cynifer ag un o bob pum plentyn yn cael ei fagu mewn teulu lle nad yw’r un o’r ddau riant yn gweithio. Heb sgiliau, hyder na dylanwad cadarnhaol, bydd y bobl ifanc hyn yn cael eu dal yn y diwylliant budd-daliadau diddiwedd a fydd yn difetha bywydau yng Nghymru am genedlaethau i ddod.

“Mae’r Llywodraeth glymblaid wedi ymrwymo i weithio ar y cyd a Llywodraeth Cynulliad Cymru i arfogi’r rheini sy’n chwilio am waith gyda’r sgiliau a’r doniau angenrheidiol i fynd yn ol i fyd gwaith, ac i brofi i’r teuluoedd hynny sy’n ddibynnol ar fudd-daliadau bod gwaith wir yn talu.”

Cyhoeddwyd ar 11 August 2010