Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi'r ffordd ymlaen ar gyfer ystad y llysoedd a'r tribiwmlysoedd

Yn ôl y cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw, sicrhau mynediad at gyfiawnder fydd y brif flaenoriaeth wrth benderfynu ar ddyfodol adeiladau llysoedd a thribiwnlysoedd.

  • Nodi egwyddorion ar gyfer y newidiadau i’r llysoedd yn y dyfodol
  • Blaenoriaethu amseroedd teithio a hwylustod o ran defnyddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth
  • Cyhoeddi Canllaw Dylunio Newydd ar gyfer y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd

Mae’r ymateb i’r ymgynghoriad Parod at y dyfodol: trawsnewid ystad y llysoedd a’r tribiwnlysoedd, a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM), yn rhoi manylion ar sut y dylid gwneud penderfyniadau ynghylch dyfodol yr ystad. Mae’n nodi’n glir y bydd pobl yn dal i allu mynd i lysoedd a thribiwnlysoedd yn ogystal â darparu gwerth am arian i’r trethdalwr a sicrhau effeithlonrwydd yn yr hirdymor.

Datblygwyd hwn i gyd-fynd â rhaglen ddiwygio £1 biliwn GLlTEM, sy’n cyflwyno technoleg newydd a ffyrdd modern o weithio yn y system gyfiawnder, gan ei gwneud yn fwy hygyrch i bawb.

Bydd yr ymateb heddiw yn sicrhau bod ystad y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn addas ar gyfer y 21ain ganrif. Mae’n datgan:

  • Pan fydd angen ymweld a’r llysoedd, bydd amseroedd teithio a hwylustod o ran defnyddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth yn parhau i gael eu blaenoriaethu – gyda chymorth ychwanegol i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed
  • Bydd adeiladau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn addas i’r diben a gellir eu cynnal ar gost resymol i’r trethdalwr
  • Bydd staff arbenigol yn gweithio yn nerbynfeydd y llysoedd i gynorthwyo’r cyhoedd a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, a byddant yn cael hyfforddiant ar sut i ddefnyddio technoleg newydd
  • Mae’r ystad yn cyd-fynd â’r Rhaglen Ddiwygio

Meddai’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, David Gauke:

Mae ein rhaglen ddiwygio yn galluogi pobl i ddechrau datrys anghydfod heb orfod mynd i lys barn, gan gynnig cyfleoedd i wella ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd.

Gyda’r holl dechnoleg newydd sydd ar gael a’r ffyrdd modern o weithio, disgwyliwn y bydd nifer y bobl sy’n defnyddio ein llysoedd o bell yn cynyddu. Rydym yn adolygu’r ystad bresennol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i’r diben.

Mae’r adroddiad hwn yn sicrhau bod mynediad at gyfiawnder, gwerth am arian ac effeithlonrwydd y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn cael eu cynnal yn y tymor hir a bydd yr egwyddorion hyn yn golygu bod ein system gyfiawnder yn parhau’n addas ar gyfer y 21ain ganrif.

Mae GLlTEM wedi ymrwymo i geisio barn y cyhoedd, barn y gweithwyr cyfreithiol proffesiynol a barn rhanddeiliaid cyn symud unrhyw wasanaethau i adeiladau eraill, gan ddefnyddio’r meini prawf a nodir yn egwyddorion Parod at y dyfodol.

Gall y rhaglen ddiwygio gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r llysoedd o bell drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, gan leihau’r angen am adeiladau llysoedd a thribiwnlysoedd. Mae Parod at y dyfodol yn ymrwymo i beidio â gweithredu ar y dybiaeth honno drwy gynnig cau llysoedd heb dystiolaeth gadarn bod y diwygiadau’n lleihau’r defnydd o’r adeiladau hynny.

Mae’r adroddiad heddiw yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd ym mis Ionawr 2018. Ystyriwyd a defnyddiwyd pob un o’r 249 ymateb yn ofalus i gryfhau’r egwyddorion.

Ynghyd â Pharod at y dyfodol, mae GLlTEM hefyd wedi cyhoeddi Canllaw Dylunio Newydd ar gyfer y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd. Datblygwyd hwn ar ôl ymgysylltu â grwpiau defnyddwyr, er mwyn sicrhau bod y canllaw yn gwella’r profiad i ddefnyddwyr llysoedd a thribiwnlysoedd, gan roi gwerth am arian i’r trethdalwr ar yr un pryd.

Cyhoeddwyd ar 10 May 2019