Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

The Rt Hon David Gauke MP

Bywgraffiad

Penodwyd David Gauke yn Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar 11 Mehefin 2017. Cafodd ei ethol fel AS Ceidwadol dros Hertfordshire South West ym mis Mai 2005.

Addysg

Wedi’i eni yn 1971 ac wedi’i addysgu yn Northgate High School yn Ipswich, astudiodd David y gyfraith yn St Edmund Hall, Prifysgol Rhydychen. Wedi blwyddyn yn gweithio fel ymchwilydd seneddol, mynychodd Chester College of Law cyn dod yn gyfreithiwr dan hyfforddiant.

Gyrfa wleidyddol

Roedd David yn aelod o Bwyllgor Seneddol y trysorlys o fis Chwefror 2006 hyd nes iddo gael ei benodi’n Weinidog yr Wrthblaid dros y Trysorlys ym mis Mehefin 2007. Fel Gweinidog yr Wrthblaid dros y Trysorlys canolbwyntiodd ar bolisi treth, yn cynnwys materion fel symleiddio treth a diwygio treth gorfforaethol. Cafodd ei benodi’n Ysgrifennydd y Trysorlys ym mis Mai 2010, a’i ddyrchafu’n Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys ym mis Gorffennaf 2014 ble bu’n gwasanaethu tan fis Gorffennaf 2016.

Fe wasanaethodd fel Prif Ysgrifennydd y Trysorlys o fis Gorffennaf 2016 i fis Mehefin 2017.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Wedi cymhwyso fel cyfreithiwr yn 1997, gweithiodd David i gwmni blaenllaw yn y Ddinas cyn mynd i’r Senedd yn 2005.

Bywyd personol

Mae David yn byw yn Chorleywood gyda’i wraig, Rachel, a’u 3 mab.

Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

Yr Ysgrifennydd Gwladol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gyfrifol am weinyddiaeth Pensiwn y Wladwriaeth a system budd-daliadau oedran gweithio, gan roi cymorth i:

  • pobl o oedran gweithio
  • cyflogwyr
  • bensiynwyr
  • teuluoedd a phlant
  • pobl anabl

Rolau blaenorol mewn llywodraeth

  1. Chief Secretary to the Treasury

    • 2016 to 2017
  2. Financial Secretary to the Treasury

    • 2014 to 2016
  3. Exchequer Secretary to the Treasury

    • 2010 to 2014

Cyhoeddiadau

Get updates to this list email feed

Copy and paste this URL in to your feed reader

  1. Fframwaith cyllidol newydd yn rhoi sicrwydd ariannol tymor hir i Gymru

    • News story
  2. Cam hollbwysig tuag at ddatganoli cyllidol

    • News story