Datganiad i'r wasg

Gwyddonwyr mwyaf addawol Cymru yn derbyn £3.5m o gyllid gan Lywodraeth y DU i ddod â syniadau arloesol i’r farchnad

Gall grant Llywodraeth y DU helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chlefydau angheuol drwy ddarparu ac ariannu ymchwil wyddonol ac offer hanfodol

Woman working in lab
  • Mae arweinwyr gwyddonol mwyaf addawol y dyfodol yn cael eu cefnogi gan fuddsoddiad o £3.5 miliwn gan Lywodraeth y DU i wireddu datblygiad arloesol newydd mewn gwyddoniaeth
  • Mae prosiectau yn cynnwys mynd i’r afael ar gyflyrau megis Clefyd Parkinson a chnydau sy’n gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd
  • Mae’r buddsoddiad yn rhan o uchelgais beiddgar Llywodraeth y DU i adeiladu nôl yn well drwy wyddoniaeth ac ymchwil arloesol gan sefydlu’r DU fel uwchbŵer gwyddoniaeth fyd-eang

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU heddiw (dydd Iau 15 Hydref) y bydd ymchwilwyr arloesol yng Nghymru yn elwa o hwb ariannol o £3.5 miliwn i ddatblygu eu syniadau arloesol yn gynhyrchion a gwasanaethau trawsnewidiol.

Wrth fynd i’r afael ar rai o heriau mwyaf y byd, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a chlefyd angheuol, bydd cant o wyddonwyr ac ymchwilwyr newydd y DU yn derbyn cyfran o dros £109 miliwn i ddatblygu eu syniadau pen agored i fynd i’r afael ar faterion byd-eang fel cyflenwad bwyd, diagnosis o ganser a thriniaeth dementia.

Bydd y buddsoddiad yn galluogi’r gwyddonwyr a’r ymchwilwyr mwyaf addawol yng Nghymru ac ar draws y DU, o Gaeredin i Gaerwysg, i ariannu offer hanfodol a chyflogau ymchwilwyr er mwyn helpu datblygu eu syniadau yn gyflym.

Ymhlith y genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwyddonol y DU yng Nghymru a gefnogir heddiw, mae Dr Dayne Beccano-Kelly ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd e’n archwilio ffyrdd newydd o adnabod a thrin Clefyd Parkinson, yr ail anhwylder niwrodirywiol fwyaf cyffredin, drwy sylwi ar newidiadau cynnar yn y ffordd y mae niwronau yn yr ymennydd yn gweithio ac yna datblygu triniaethau cyffuriau newydd i atal neu arafu’r cynnydd yn y clefyd.

Yn ôl Amanda Solloway y Gweinidog Gwyddoniaeth:

Ein huchelgais yw sefydlu’r DU fel uwchbŵer gwyddoniaeth fyd-eang drwy gefnogi ein hymchwilwyr gorau a disgleiriaf.

Mae gan Gymru hanes cyfoethog o ddarganfyddiadau gwyddonol ac wedi rhoi’r archeb bost cyntaf i’r byd siopa, celloedd tanwydd a hyd yn oed y symbol mathemategol ar gyfer Pi – a grëwyd gan William Jones o Ynys Môn. Drwy gefnogi’r Cymrodyr Arweinwyr y Dyfodol yma, rydym yn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn ganolfan arloesi drwy helpu ein cenhedlaeth newydd o arweinwyr gwyddonol i droi eu syniadau gwych yn gynhyrchion a gwasanaethau hanfodol a fydd yn newid ein bywydau er gwell.

Mae cynllun arall sy’n derbyn arian yn cael ei arwain gan Dr Andrew Lloyd ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n ceisio datblygu cnydau maeth uchel sy’n barod ar gyfer yr hinsawdd ac sy’n gwrthsefyll clefydau. Bydd rhain yn cael ei ddefnyddio i gwrdd ag anghenion bwyd y dyfodol.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart

Dw i’n falch i weld Llywodraeth y DU yn cefnogi gwyddonwyr yng Nghymru wrth i ni geisio adeiladu nôl yn well drwy ymchwil ac arloesedd.

Mae’r cymorth hwn yn golygu y gellir datblygu ymchwil a syniadau arloesol i mewn i gynhyrchion a gwasanaethau allai fod o fudd i filiynau. Mae gwaith ymchwil, fel ymchwil Dr Beccano-Kelly ym Mhrifysgol Caerdydd i Glefyd Parkinson, yn dangos faint o dalent wyddonol sydd gan Gymru a bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hwb arloesi.

Yn ôl yr Athro Fonesig Ottoline Leyser, Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesi’r DU,

Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol yn rhoi rhyddid a chymorth i ymchwilwyr ac arloeswyr i hyrwyddo syniadau newydd trawsnewidiol a’r cyfle i ddysgu gan gyfoedion ledled y wlad.

Mae’r cymrodyr a gyhoeddwyd heddiw yn dangos sut mae’r DU yn parhau i gefnogi denu ymchwilwyr ac arloeswyr talentog o bob maes i’n prifysgolion a’n busnesau gyda’r potensial i sicrhau newid y gellir ei deimlo ar draws cymdeithas a’r economi.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo dros £900 miliwn i’w menter Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol dros dair blynedd, sy’n cael ei ddarparu gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI).

Bydd y gwaith y cymrodyr yn ganolog i uchelgais Llywodraeth y DU i’r DU ddod yn uwchbŵer wyddoniaeth sy’n arwain y byd. Bydd hyn yn cael ei osod allan ym Map Ymchwil a Datblygu (R&D Roadmap) ym mis Gorffennaf eleni.

Mae’r cyllid a ymrwymwyd i’r cymrodyr yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth DU i gynyddu gwariant cyhoeddus mewn ymchwil a datblygu (YaD) i £22 biliwn erbyn 2024/25, gan roi’r DU ar y trywydd iawn i gyrraedd 2.4% o’r GDP sy’n cael ei wario ar ymchwil a datblygu ledled economi’r DU erbyn 2027.

Cyhoeddwyd ar 23 October 2020