Stori newyddion

Bydd Cymru’n parhau i fod wrth galon Lluoedd Arfog Prydain, medd Ysgrifennydd Cymru

Wrth ymateb i ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ynghylch adolygiad Byddin 2020, dywedodd Mrs Gillan ei bod yn falch y bydd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wrth ymateb i ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ynghylch adolygiad Byddin 2020, dywedodd Mrs Gillan ei bod yn falch y bydd Cymru’n cadw nifer arwyddocaol o gatrodau, gan gynnwys Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines.

Bydd rol y Frigad 160 (Cymru) hon yn Aberhonddu yn cael ei hategu o dan y cynigion hyn. Bydd Cymru hefyd yn cadw’r Gwarchodlu Cymreig ac 1 y Cymry Brenhinol. Fodd bynnag, bydd 2il Fataliwn y Cymry Brenhinol yn cael eu hymgorffori ym Mataliwn 1af y Cymry Brenhinol o hydref 2013.

Roedd yr adolygiad, o dan arweiniad y fyddin, yn ystyried sut i aildrefnu’r Fyddin orau, a fydd yn oddeutu 120,000 gan gynnwys 30,000 o filwyr wrth gefn sydd wedi’u hyfforddi. Wrth i’r brwydro ddod i ben yn Afghanistan, mae’r Fyddin yn cydnabod bod angen iddi newid ei ffocws o ymgyrchoedd i gynlluniau wrth gefn, er mwyn gallu ymateb yn well i’r sefyllfa fyd-eang, gymhleth a gallu addasu’n well i heriau yn y dyfodol.

Wrth siarad ar ol y cyhoeddiad, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Rwy’n falch fod Cymru’n parhau i fod yn gryf wrth galon Lluoedd Arfog Prydain yn dilyn y cyhoeddiad heddiw.

“Rwy’n falch y bydd gennyn ni ol troed milwrol sylweddol yng Nghymru ac y bydd ein catrodau yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol y Fyddin. 

“Er ei bod ni’n siomedig gweld dau fataliwn balch yn ymgorffori’n un, mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn wedi fy sicrhau bod hyn yn angenrheidiol er mwyn gwneud yn siŵr bod y Fyddin yn parhau’n hyblyg ar gyfer heriau yn y dyfodol.  

“Yn gyffredinol, rwy’n falch bod Adolygiad 2020 y Fyddin wedi sicrhau bod Cymru’n cadw nifer sylweddol o gatrodau, fel y Gwarchodlu Cymreig, Gwarchodlu Dragŵn 1af y Frenhines, Brigad 160 (Cymru) sydd oll yn chwarae rhan hanfodol a phwysig yn y Fyddin fodern.

“Rwy’ wastad wedi cefnogi ein Lluoedd Arfog yng Nghymru ac rwy’n ddiolchgar i’m cyfeillion yn y Cabinet am wrando ar fy sylwadau ynghylch pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod unedau milwrol Cymru’n cael eu diogelu cymaint a phosib.

“Mae’n bwysig cofio mai’r fyddin sydd wedi arwain ar y cynlluniau hyn, a’r fyddin sy’n gwybod orau sut i greu strwythur cytbwys, medrus a hyblyg ar gyfer y lluoedd, sy’n angenrheidiol ar gyfer y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 5 July 2012