Stori newyddion

Bydd llewyrch y fflam Olympaidd ar Gymru, medd Yr Ysgrifennydd Gwladol

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud y bydd llewyrch y fflam Olympaidd ar Gymru wrth i’r wlad groesawu’r fflam Olympaidd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud y bydd llewyrch y fflam Olympaidd ar Gymru wrth i’r wlad groesawu’r fflam Olympaidd am y tro cyntaf erioed y flwyddyn nesaf.

Bydd y fflam yn dechrau ar ei thaith gyntaf erioed drwy Gymru yng Nghaerdydd ar 25 Mai 2012, a bydd yn galw heibio yn Abertawe, Aberystwyth a Bangor ar ei thaith gyfnewid ledled y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae hwn yn newyddion gwych ac rwy’n siŵr y bydd llewyrch y fflam Olympaidd ar Gymru wrth chwarae rol allweddol yn y Gemau’r flwyddyn nesaf. 

“Cynhelir un o ddigwyddiadau cyntaf y Gemau yng Nghymru gyda’r gic gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm ac rydym hefyd yn croesawu nifer o dimau Olympaidd i Gymru wrth iddynt baratoi ar gyfer y Gemau. Cafodd to dur y Ganolfan Chwaraeon Dŵr eiconig yn Stratford ei gynhyrchu yng Nghasnewydd ac mae’r medalau Olympaidd yn cael eu cynhyrchu yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.

“Mae’r Gemau Olympaidd yn ddigwyddiad chwaraeon anferthol ac mae’n bluen yn ein het bod y DU yn cynnal y Gemau’r flwyddyn nesaf.  Felly, mae’n hyfryd o beth fod Cymru yn rhan o daith gyfnewid y fflam Olympaidd. Yn sicr, bydd yn rhoi blas i ni o’r cyffro sydd o’n blaenau yn y Gemau.

Cyhoeddwyd ar 18 May 2011