Datganiad i'r wasg

Cymru i elwa o gynlluniau trawsnewidiol radical y Fyddin

* ‘Milwr y Dyfodol’ yn fodd i ad-drefnu’r Fyddin ar gyfer rhyfeloedd y dyfodol * 8.6bn o fuddsoddiad ychwanegol mewn offer y Fyddin

Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace, y bydd Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines, neu’r Cafalri Cymreig fel y cânt eu hadnabod ar lawr gwlad, yn symud i Farics Caer-went o 2028 ymlaen. Mae’r Gwarchodlu’n recriwtio’n bennaf o Gymru.

Mae’r hwb hwn i Gymru yn rhan o’r cynllun ‘Milwr y Dyfodol / Future Soldier’ sef y trawsnewidiad mwyaf radical i’r Fyddin ers dros 20 mlynedd. Bydd yr ad-drefnu hwn yn arwain at gynnydd cyffredinol yn nifer y milwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.

Bydd niferoedd y Milwyr Wrth Gefn yng Nghymru yn parhau i dyfu hefyd gyda lleoliad newydd yn cael ei agor yn Wrecsam ar gyfer elfennau o 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol wrth iddynt ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb dros weithrediadau amddiffyn y tir cartref yn ogystal â chynnal rôl frwydro ochr yn ochr â chydweithwyr Rheolaidd mewn rhyfeloedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace:

Wrth wraidd “Milwr y Dyfodol”, mae yna uchelgais a amlinellir yn y Papur Gorchymyn Amddiffyn i drawsnewid y Fyddin yn rym mwy hyblyg, integredig, nerthol ac allblyg.

Cefnogir y gwaith hirdymor hwn gan £8.6bn yn ychwanegol ar gyfer offer y Fyddin, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad i £41.3 biliwn.

“Bydd ein byddin yn gweithredu ym mhedwar ban byd ac yn gallu mynd i’r afael â llu o fygythiadau o ryfel seiber i wrthdaro ar faes y gad.

Dywedodd y Brigadydd Andrew Dawes CBE, Pennaeth y Fyddin yng Nghymru:

Byddwn yn croesawu’r Cafalri Cymreig (Gardiau Dragŵn y Frenhines) ac uned ychwanegol o droedfilwyr i farics newydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol yn Ne Cymru yn ogystal ag is-uned newydd o’r 3ydd Cymry Brenhinol yn Wrecsam. Mae’r addasiadau hyn yn cryfhau ein presenoldeb ledled Cymru ac yn tanlinellu pwysigrwydd Cymru i’r Fyddin ac i’r DU yn ehangach.

Ni fydd y Barics yn Aberhonddu yn cael ei werthu a bydd yn parhau i fod yn gartref i bencadlys milwrol y rhan fwyaf o’r milwyr yng Nghymru.

Bydd buddsoddiad o £320 miliwn yn cefnogi’r cynnydd yn ôl-troed y Fyddin yng Nghymru.

Bydd troedfilwyr o Gymru yn parhau i fod wrth galon gallu’r Fyddin i ymladd rhyfeloedd a bydd y Bataliwn 1af, y Cymry Brenhinol, yn derbyn Cerbyd Cludo Personél Arfog newydd y Fyddin, sef y Boxer. Byddant yn dal wedi’u lleoli yn Salisbury Plain ac yn rhan hanfodol o uwch adran frwydro’r Fyddin.

Bydd y Gwarchodlu Cymreig, sydd wedi’u lleoli ar gyrion Windsor, yn parhau i gyflawni dyletswyddau seremonïol ac amddiffyn y Teulu Brenhinol ochr yn ochr â’u rôl ysgafn fel Milwyr.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Gohiriwyd cau Barics Cawdor yn Sir Benfro tan 2028.

  • Lansiwyd Milwr y Dyfodol fel rhan o Adolygiad Integredig y Llywodraeth ym mis Mawrth 2021 ac mae’n amlinellu sut bydd y Fyddin yn cael ei threfnu a’i strwythuro yn y dyfodol, a sut bydd yn delio â bygythiadau sy’n dod i’r amlwg ar draws y byd. Daw’r cyhoeddiad diweddaraf yn dilyn gwaith parhaus gan y Fyddin i gyflwyno newidiadau ar draws y Fyddin.

  • Mae’r canllaw cyfan ar “Milwr y Dyfodol” ar gael ar-lein yn Future Soldier is available online

Cyhoeddwyd ar 9 December 2021