Bydd Rali GB Cymru 2010 yn Llwyddiant arall ym myd chwaraeon I Gymru, dywed Cheryl Gillan
Wrth i Rali GB Cymru eleni ddechrau, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan yn rhagweld y bydd yn llwyddiannus, gan dynnu sylw at allu…

Wrth i Rali GB Cymru eleni ddechrau, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan yn rhagweld y bydd yn llwyddiannus, gan dynnu sylw at allu Cymru i gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol blaenllaw.
Cynhelir y Rali rhwng 11 a 14 Tachwedd a dyma rownd olaf Pencampwriaeth Rali’r Byd FIA 2010. Bydd Mrs Gillan yn cyflwyno’r tlysau i’r gyrwyr buddugol ym Mae Caerdydd ddydd Sul am 3.25pm.
Disgwylir i filoedd o gefnogwyr selog chwaraeon modur dyrru i Fae Caerdydd dros y dyddiau nesaf, a bydd cyfle i’r cefnogwyr weld y gyrwyr a’r timau yn agos yn y man rhoi gwasanaeth i’r ceir.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae Rali GB Cymru yn parhau i dyfu bob blwyddyn ac mae’n un o ddigwyddiadau mwyaf y DU yng nghalendr chwaraeon modur. Yn dilyn llwyddiant cyfres y Lludw a Chwpan Ryder, mae hyn yn enghraifft arall eto o allu Cymru i gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol blaenllaw.
“Disgwylir y bydd miloedd o gefnogwyr yng Nghaerdydd y penwythnos hwn a miliynau yn gwylio ar y teledu dros y byd i gyd, a bydd y Rali yn codi proffil Cymru ar lwyfan chwaraeon modur y byd. Bydd hefyd yn rhoi hwb aruthrol i’r economi leol drwy ddenu cefnogwyr i Dde Cymru. Edrychaf ymlaen at brofi rhywfaint o hud y Rali pan fydda i’n cyflwyno tlysau i’r gyrwyr buddugol ddydd Sul.”