Datganiad i'r wasg

Cymru yn cofio ar Ddydd y Cadoediad

Mewn digwyddiadau heddiw [11 Tachwedd] ar Ddydd y Cadoediad ac mewn Gwasanaethau ddydd Sul, bydd cyfle i bobl Cymru ddiolch a dangos eu parch…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mewn digwyddiadau heddiw [11 Tachwedd] ar Ddydd y Cadoediad ac mewn Gwasanaethau ddydd Sul, bydd cyfle i bobl Cymru ddiolch a dangos eu parch at ddynion a menywod y lluoedd arfog a fu’n gwasanaethu ac sydd yn gwasanaethu, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan.

Bydd Mrs Gillan yn mynd i Wasanaeth Cenedlaethol Dydd y Cadoediad ym Mharc Cathays, Caerdydd a gynhelir ddydd Sul, 14 Tachwedd, o 10am ymlaen.   Bydd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, a lansiodd Apel Pabi Cymru eleni yn RAF y Fali ar Ynys Mon, yn mynd i Wasanaeth Sul y Cofio hefyd ger y Cofeb Rhyfel yn Rhuthun o 10.30am ymlaen.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Mae Dydd y Cadoediad yn gyfle i ni fyfyrio dros yr aberth a wnaed yn rhyfeloedd y gorffennol a’r presennol ac rwy’n siŵr y bydd pobl ledled Cymru am roi teyrnged i ddynion a menywod y lluoedd arfog heddiw ac mewn Gwasanaethau ddydd Sul.    Mae’n gyfle i gofio’r rheini a gollodd eu bywydau ac a frwydrodd dros ein rhyddid a’n democratiaeth.

“Mae’n arbennig o deimladwy i mi gan na ches i’r cyfle erioed i adnabod fy nhad-cu, a oedd yn llongwr gyda’r Llynges Fasnachol ac a gollodd ei fywyd yn yr Ail Ryfel Byd.   Mae hwn yn amser i sawl teulu fyfyrio’n dawel ac mae’n gyfle i ni fel cenedl ddweud diolch.

Meddai Mr Jones:  “Mae Apel Pabi eleni yn canolbwyntio ar y ‘genhedlaeth Affgan’ ac mae’n gyfle i anrhydeddu’r rheini sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn Affganistan, gan gynnwys catrodau o Gymru.   Mae pobl ledled Cymru a’r DU wedi bod yn gwisgo eu pabi gyda balchder unwaith eto eleni er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r rheini sydd wedi aberthu cymaint dros eu gwlad.”

Mae’r Lleng Frenhinol Brydeinig yn cynnal digwyddiadau “Tawelwch yn y Sgwar” ar Sgwar Trafalgar, Llundain ac ar Sgwar y Castell, Abertawe, er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd gymryd rhan yn y ddau funud o dawelwch am 11am heddiw.

Cyhoeddwyd ar 11 November 2010