Datganiad i'r wasg

Cyfle Cymru i ddod â 5G gam yn nes mewn cystadleuaeth genedlaethol

Guto Bebb: Dylai cyrff yng Nghymru fanteisio ar y cyfle hwn i gyflymu gwasanaeth

5G

5G

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gystadleuaeth gwerth £25 miliwn a fydd yn cadarnhau safle’r DU ar flaen y gad yn natblygiad technoleg 5G.

Mae’r gystadleuaeth “Meinciau Arbrofi a Threialon 5G” yn rhan o Gronfa Genedlaethol Buddsoddi mewn Cynhyrchiant (NPIF) Llywodraeth y DU, cronfa gwerth £740m i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o seilwaith digidol, sy’n cynnwys 5G a band eang ffibr llawn.

Mae Llywodraeth y DU yn chwilio am leoliadau profi newydd mewn gwahanol rannau o’r DU a fydd yn helpu i roi technoleg 5G - ‘y bumed genhedlaeth’ – ar waith yn y dyfodol. Mae nawr yn annog sefydliadau sydd â diddordeb, yn unrhyw ran o’r DU, i gyflwyno cynigion prosiect ar gyfer grantiau arian cyfatebol sy’n werth hyd at £5 miliwn.

Mae’r hwb hwn i dechnoleg arloesol 5G hefyd yn dilyn y cyhoeddiad y bydd buddsoddiad o £1.7 biliwn gan Lywodraeth y DU, erbyn diwedd y flwyddyn hon, wedi helpu i ddod â band eang cyflym iawn i 95% o’r DU.

Bydd 5G yn galluogi cyflymder rhyngrwyd i ddal i fyny â’r nifer cynyddol o ddyfeisiau sydd angen cysylltiad, yn enwedig y cynnydd aruthrol mewn dyfeisiau clyfar yn y cartref a’r ‘rhyngrwyd o bethau’. Â chyflymder posibl o hyd at 10 gigadid yr eiliad, bydd hefyd yn ei gwneud hi’n haws i bobl lawrlwytho ac uwchlwytho Ultra HD a fideo 3D yn gyflym.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU i Gymru:

Mae hwn yn gyfle gwych i Gymru fod ar flaen y gad wrth ddatblygu technoleg ddigidol, gan hybu capasiti a chynhyrchiant busnesau lleol, yn ogystal â thrigolion sydd eisiau manteisio ar gyflymder cyflym iawn.

Mae’r dirwedd ddigidol yng Nghymru’n esblygu o hyd, a bydd Llywodraeth y DU yn dal i wneud popeth posibl i gefnogi’r chwyldro hwn mewn technoleg. Rwy’n annog cyrff yng Nghymru i fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau’r cyllid hwn a helpu i gyflymu gwasanaeth ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Digidol, Matt Hancock:

Er mwyn parhau’n gystadleuol rhaid i ni fod ar flaen y gad â’r dechnoleg newydd ac rydym yn benderfynol o fod yn un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i ddefnyddio 5G. Yn y camau cynnar iawn hyn rydym eisiau pob syniad, o bob rhan o’r wlad, a fydd yn ein helpu i gael y dechnoleg a’r broses o’i rhoi ar waith yn iawn, ac i gael rhwydwaith cenedlaethol o arloeswyr 5G.

Rydym yn gwneud hyn oherwydd ein bod yn benderfynol o sicrhau mai Prydain yw’r lle gorau yn y byd i gychwyn a thyfu busnes digidol, a chyflawni ar gyfer pob dinesydd, heddiw ac yn y dyfodol.

Yn Natganiad Hydref 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i fuddsoddi mewn rhaglen wedi’i chydgysylltu’n genedlaethol o gyfleusterau mainc arbrofi a threialon 5G, fel rhan o becyn gwerth £1 biliwn o gyhoeddiadau a wnaethpwyd er mwyn hybu seilwaith digidol y DU. Mae adroddiad gan Grŵp Her Cyfathrebu yn y Dyfodol yn awgrymu y gallai arweinyddiaeth y DU mewn 5G arwain at gyfle i greu £173 biliwn o dwf cynyddrannol mewn cynnyrch domestig gros yn y DU dros gyfnod o ddeng mlynedd rhwng 2020 a 2030

Dywedodd Andrew Jones AS, Ysgrifennydd y Trysorlys:

Er mwyn gwella cynhyrchiant mae angen buddsoddiad wedi’i dargedu, ac mae angen cynnal y buddsoddiad hwnnw. Dyma pam rydym yn cefnogi seilwaith digidol y DU â thros biliwn o bunnoedd o gyllid gan Lywodraeth y DU. Os ydych yn gwneud busnes ar-lein, neu’n gwneud eich siopa wythnosol ar-lein, mae cysylltiadau cryf a dibynadwy’n hollbwysig.

Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn gam mawr ymlaen er mwyn dod â 5G i’r DU a sicrhau bod ein seilwaith digidol yn addas ar gyfer y dyfodol.

Disgwylir i brosiectau gael eu harwain gan ddiwydiant, neu y bydd ganddynt elfen ddiwydiannol gref, a dim ond i sefydliadau cofrestredig yn y DU, sy’n cyflawni prosiectau yn y DU ac sy’n gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill y bydd y cyllid ar gael.

Mae manylion ynglŷn â sut i wneud cais i’w gweld (o 10.00am dydd Llun 16 Hydref) ar

Nodiadau i Olygyddion

  1. Amcangyfrifodd IHS Economics / IHS Technology y bydd 5G, drwy fodelu buddsoddi mewn diwydiant ac effeithiau ar gyfanswm ffactorau cynhyrchu o achosion defnydd disgwyliedig, yn galluogi allbwn economaidd byd-eang gwerth $12.3 triliwn o ddoleri UDA yn 2035.

  2. Mae’r gystadleuaeth gyllid gyntaf hon ar gyfer Cam 1 prosiectau meinciau arbrofi a threialon cychwynnol a fydd yn helpu i ddatblygu “ecosystem 5G” y DU, boed drwy archwilio’r potensial i 5G sicrhau budd i fusnesau; datblygu cymwysiadau a gwasanaethau 5G newydd; datblygu ac archwilio modelau busnes newydd o amgylch technolegau 5G allweddol; neu leihau’r risgiau masnachol sy’n gysylltiedig â buddsoddi mewn 5G.

Bydd manylion cyfleoedd i gael cyllid yn y dyfodol ar gyfer rhagor o feinciau arbrofi a threialon ar gael wrth i’r rhaglen ddatblygu. Mae’n debyg y bydd cyllid yn y dyfodol hefyd yn cynnwys prosiectau mawr ar gyfer nifer o flynyddoedd a allai fod yn ymwneud â meysydd sy’n gydnaws â blaenoriaethau strategol Llywodraeth y DU neu sy’n helpu i fynd i’r afael â materion defnyddio neu heriau technegol sy’n helpu i gyflawni amcanion strategaeth 5G Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd ar 16 October 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 October 2017 + show all updates
  1. Translation added

  2. First published.