Datganiad i'r wasg

Swyddfa Cymru yn cynnal lansiad stamp Dylan Thomas gan y Post Brenhinol

Dathlu cyfraniad Dylan Thomas yn set ‘Bywydau Rhyfeddol’ newydd y Post Brenhinol

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dylan Thomas stamp

Heddiw (25 Mawrth), bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn cynnal lansiad swyddogol stamp Dylan Thomas yn Swyddfa Cymru yn Llundain.

Mae’r bardd ac ysgrifennwr o Gymru, Dylan Thomas, yn un o’r unigolion rhyfeddol y mae eu cyfraniad yn cael ei ddathlu – ym mlwyddyn canmlwyddiant eu geni – ar stamp gan y Post Brenhinol yn y gyfres ‘Bywydau Rhyfeddol’.

Mae’r set, fydd ar gael ar 25 Mawrth, yn coffau unigolion a wnaeth gyfraniad sylweddol i gymdeithas gwledydd Prydain, fel Dylan, sy’n enwog am y ddrama radio Under Milk Wood a cherddi megis ‘And Death Shall Have No Dominion’ a ‘Do Not Go Gentle into That Good Night’.

Bydd Mr Jones yn croesawu gwesteion, gan gynnwys aelodau o deulu’r bardd, i Gwydyr House, a bydd yn cyflwyno stamp mewn ffrâm o ddelwedd ei thaid i wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis.

Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

Mae Dylan Thomas yn un o ysgrifenwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif, ac rwyf wrth fy modd yn gweld cyflawniadau’r Cymro mawr hwn yn cael eu cydnabod gan y Post Brenhinol, a’i gynnwys yn y casgliad stampiau nodedig hwn.

Mae enw Dylan Thomas fel cawr diwylliannol yn atseinio ym mhedwar ban byd. Wrth i ni nodi canmlwyddiant ei eni yn 2014 gyda chyfres o ddigwyddiadau dathlu, rwyf wrth fy modd â’r cyfle hwn i gynnal y digwyddiad pwysig hwn yn Gwydyr House yng nghwmni aelodau ei deulu.

Dywedodd wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis:

Ysgrifennodd fy nhad-cu lythyrau angerddol a barddonol at ei ffrindiau a’i deulu. Maent yn drysorfa o ddisgrifiadau hudolus a hynod a hanesion digri o fywyd yn nhrefi a phentrefi Cymru. Mae’n anrhydedd fawr fod Dylan Thomas yn cael ei gofio yn y gyfres o stampiau, Bywydau Rhyfeddol. Ond rhaid i mi ddweud fy mod yn tybed wrthyf fy hun sut byddai’n teimlo o weld ei hun ar stamp.

Mae’r set o 10 “Bywyd Rhyfeddol” hefyd yn cynnwys:

  • Syr Alec Guinness a Kenneth More – actorion llwyfan a sgrîn
  • Joe Mercer, chwaraewr a rheolwr pêl-droed
  • Barbara Ward, economegydd, darlledwr ac arloeswr materion amgylcheddol byd-eang
  • Noorunissa Inayat Khan, Swyddog Gweithrediadau Arbennig Prydain yn Ffrainc adeg meddiannaeth y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd
  • Max Perutz, biolegydd molecwlar ac enillydd Gwobr Nobel 1962
  • Roy Plomley, darlledwr ac ysgrifennwr
  • Joan Littlewood, cyfarwyddwr theatr ac ysgrifennwr
  • Abram Games, artist poster yn y Swyddfa Ryfel a dylunydd graffig arloesol

Dywed Andrew Hammond, Cyfarwyddwr Stampiau a Deunydd Casgladwy y Post Brenhinol:

Mae’r gyfres ‘Bywydau Rhyfeddol’ yn creu ymdeimlad gwych o hanes, ac yn cyfleu cyflawniad ac ymdrech y bobl arbennig hyn.

Cyhoeddwyd ar 25 March 2014