Swyddfa Cymru yn Dechrau Cyfri’r Diwrnodau tan Ddigwyddiad Cyntaf y Gemau Olympaidd yng Nghaerdydd
A chwta chwe mis i fynd tan ddigwyddiad cyntaf Gemau Olympaidd Llundain 2012, croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddechrau…

A chwta chwe mis i fynd tan ddigwyddiad cyntaf Gemau Olympaidd Llundain 2012, croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddechrau cyfri’r diwrnodau tan agor y llenni heddiw (25 Ionawr).
Bydd Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, yn lwyfan i dwrnamaint pel-droed y menywod a fydd yn dechrau ar 25 Gorffennaf, ddeuddydd cyn dathliadau’r seremoni agoriadol yn y Parc Olympaidd, Llundain.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’n gyffrous iawn nawr bod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd mor agos. Mae’n amser dechrau cynllunio eich dathliadau a chymryd rhan, gan fod llawer o weithgareddau’n cael eu cynnal ledled Cymru. Bydd y Gemau’n gyfle gwych i dynnu sylw at Gymru, a byddant hefyd yn dod ag ystod eang o fanteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i’n cymunedau.”
- Bydd Taith Gyfnewid y Ffagl Olympaidd yng Nghymru rhwng dydd Gwener 25 Mai a dydd Mercher 30 Mai, gan ymweld a thros 81 o gymunedau, gydag oddeutu 100 o bobl yn cario’r Ffagl a’r fflam bob dydd. Bydd digwyddiadau fin nos yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor.
- Mae cwmniau o Gymru eisoes wedi chwarae rhan bwysig iawn wrth adeiladu’r Parc Olympaidd.
- Hyd yma, mae pump o wledydd wedi arwyddo cytundebau i hyfforddi yng Nghymru. Yn ogystal, mae timau paralympaidd aml-gamp o Awstralia, Seland Newydd a De Affrica wedi penderfynu dod i Gymru i hyfforddi’n union cyn y gemau.
- Mae’r Bathdy Brenhinol yn gwneud 4,700 o fedalau Olympaidd a Pharalympaidd, ac mae ganddo drwydded i gynhyrchu nwyddau ar gyfer y Gemau.
- Mae 79 o brosiectau cymunedol yng Nghymru sydd wedi cael eu hysbrydoli gan Gemau 2012.
Bydd tocynnau ar gyfer y Twrnamaint Pel-droed Olympaidd ar gael tan 6 Chwefror 2012, ewch i** **http://www.tickets.london2012.com/