Staff Swyddfa Cymru yn gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog – Cymru
Mae staff o Swyddfa Cymru wedi bod yn gwirfoddoli dros ddau ddiwrnod [27 a 28 Mehefin] gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog - Cymru. Bu staff Swyddfa…

Mae staff o Swyddfa Cymru wedi bod yn gwirfoddoli dros ddau ddiwrnod [27 a 28 Mehefin] gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog - Cymru. Bu staff Swyddfa Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn rhaglen Ymddiriedolaeth y Tywysog ar amrywiaeth o weithgareddau - o helpu i ddatblygu sgiliau cyfrifiadurol i fagu hyder drwy weithgareddau tim fel adeiladu rafft a cherdded ceunentydd yn Rhondda Cynon Taf a Llanelli.
Mae’r cyfnod hwn o wirfoddoli yn dilyn ymweliad Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, ag Ymddiriedolaeth y Tywysog - Cymru ym mis Mawrth, ble cyflwynodd dystysgrifau i bobl ifanc am gymryd rhan yn rhaglen ‘Get into Cars’ Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones:
“Mae Swyddfa Cymru’n annog staff i gymryd rhan mewn mentrau gwirfoddoli a chefnogi elusennau.Rwy’n falch y bydd staff Swyddfa Cymru ar bob lefel yn gwirfoddoli ac yn gweithio gyda phobl ifanc ar nifer o weithgareddau i annog hyder, gweithio fel tim a sgiliau ymarferol drwy Ymddiriedolaeth y Tywysog.Rydyn ni fel swyddfa’n gwerthfawrogi’r ffaith bod staff yn gwirfoddoli mewn cymunedau lleol, sydd hefyd yn elfen bwysig o ran moral staff.
“Mae Swyddfa Cymru’n llwyr gefnogi’r gwaith y mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn ei wneud yn cefnogi pobl ifanc ac yn eu hannog i newid eu bywydau er gwell drwy amrywiol raglenni a mentrau.Ym mis Mawrth, cefais gyfarfod wyth o bobl ifanc a gymerodd ran yn rhaglen ‘Get into cars’ Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Roedd y bobl ifanc yn cael y sgiliau angenrheidiol i ymuno a’r gweithle wrth gymryd rhan yn y rhaglen hon. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r hyn y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud yn helpu pobl ifanc i ailddechrau dysgu a gobeithio y bydd ein cysylltiad ag Ymddiriedolaeth y Tywysog yn parhau yn y dyfodol.”