Datganiad i'r wasg

Swyddfa Cymru yn ceisio syniadau ar gyfer y Gymdeithas Fawr gan RASCALS Casnewydd

Bydd sefydliadau cymunedol a grwpiau gwirfoddol Cymreig yn cwrdd a Gweinidog y Gymdeithas Sifil, Nick Hurd, a’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd sefydliadau cymunedol a grwpiau gwirfoddol Cymreig yn cwrdd a Gweinidog y Gymdeithas Sifil, Nick Hurd, a’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, mewn seminar i drafod Cymdeithas Fawr Cymru heddiw [12fed Medi].

Cynhelir y seminar, sydd dan ofal Swyddfa Cymru, i drafod dulliau a syniadau newydd er mwyn ennyn diddordeb cymunedau mewn prosiectau, partneriaethau a mentrau cymdeithasol yn eu hardaloedd. Yn y digwyddiad cyntaf o’i fath, gobaith Swyddfa Cymru yw sbarduno trafodaeth a syniadau gan grwpiau cymunedol, sefydliadau lleol a busnesau a fydd yn mynychu’r seminar ryngweithiol. Fe’i cynhelir yn lleoliad canolfan gynadledda YMCA Casnewydd ar Ffordd Mendalgief.

Bydd Mr Jones yn ymweld a RASCAL (Regeneration Association Somerton Community at Large) cyn y seminar, i weld sut y mae’r Gymdeithas Fawr yn helpu pobl yn ardal Somerton, Casnewydd i fod yn rhan o brosiectau cymunedol. Mae’r prosiect sy’n canolbwyntio ar adfywio yn cyflenwi amrywiol raglenni gan gynnwys cynllun bwyta’n iach, prosiect garddio, cydweithfa fwyd a chaffi cymunedol. Mae aelodaeth RASCAL wedi tyfu’n raddol i gynnwys 50 o wirfoddolwyr, gan weithio mewn partneriaeth a Cymunedau yn Gyntaf a darparwyr gwasanaethau eraill yn yr ardal.

Meddai’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones; “Mae’r seminar yn gyfle i glywed gan fusnesau a grwpiau cymunedol am yr hyn ydyw’r Gymdeithas Fawr Gymreig ar waith mewn gwirionedd. Ceir llawer o weithgareddau’r Gymdeithas Fawr ledled Cymru ac mae’r Llywodraeth eisiau cefnogi pobl yn y ffordd orau bosib. Bwriad y digwyddiad yw i ni wrando ar gymunedau, busnesau a mentrau cymdeithasol.”  

Meddai Mr Jones: “Nod seminar y Gymdeithas Fawr yw dwyn sefydliadau, busnesau a gwirfoddolwyr at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o helpu pobl i gymryd rhan. Canlyniad sefydliadau cymdeithasol yn erydu yw rhai o’r problemau a welsom yn ystod misoedd yr haf. Rwyf am i bobl o bob oedran gael eu hysbrydoli i chwarae rhan weithgar yn y gymdogaeth o’u hamgylch.

“Mae RASCAL yn esiampl o bobl ymroddedig, ymrwymedig yn helpu eu hardal i ffynnu ac yn cymryd cyfrifoldeb drosti. Dyma’n union beth yw’r Gymdeithas Fawr.”

Nodiadau i Olygyddion:

1.) Cynhelir ymweliad y Gweinidog o Swyddfa Cymru a RASCAL cyn y seminar.

Sefydlwyd RASCAL yn 2001 - ar hyn o bryd ceir 50 o aelodau sy’n cyflawni amrywiol rolau yn Somerton. Mae sesiynau bwyta’n iach a phrosiect garddio yn ddau gynllun a gynhelir gan R.A.S.C.A.L er budd pobl ifanc leol. Mae hefyd yn darparu: cyfeiriad at feddyg teulu, clwb ieuenctid, sesiynau bocsio, dawns, drama, grwpiau magu plant, bingo, cymhorthfa PCSO, cydweithfa fwyd, caffi cymunedol, pocer, gweithdai, cyrsiau TG, sesiynau chwaraeon ac ieuenctid.

2.) Y seminar Gymdeithas Fawr hon yw’r gyntaf un o’i bath i gael ei chynnal yng Nghymru.

Bydd y Seminar hefyd yn gyfle i glywed rhagor am “Big Society Capital”. Bydd y Big Society Capital yn gweithredu ledled y DU i ddarparu cyllid i gefnogi twf y farchnad buddsoddi cymdeithasol, gan ddarparu lefelau uwch o gyllid i roi sylw i faterion cymdeithasol, a dyrannu cyfalaf yn fwy effeithiol er mwyn cael effaith gymdeithasol.

Nid sefydliad rhoi grantiau yw Big Society Capital; sefydliad annibynnol fydd, a gall wneud buddsoddiadau ar draws y DU gyfan - gan gynnwys yng Nghymru - yn seiliedig ar angen y farchnad ac ar ansawdd bargeinion yn hytrach nag ar feini prawf daearyddol. Y nod yw cynyddu’r farchnad buddsoddi cymdeithasol fel bod rhagor o gyllid ar gael ar draws y sbectrwm.

Cyhoeddwyd ar 9 September 2011