Datganiad i'r wasg

Swyddfa Cymru yn ymateb i gyhoeddiad S4C ynglŷn ag ail-leoli'r pencadlys

S4C yn ail-leoli i Gaefyrddin

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

S4C

Gallai ail-leoli S4C i Gaerfyrddin roi hwb sylweddol i’r economi leol, i’r Gymraeg ac i’r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru, meddai Gweinidogion Swyddfa Cymru heddiw (14 Mawrth 2014).

Heddiw, mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi ei fod yn bwrw ymlaen â’r cynnig a arweiniwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i sefydlu pencadlys newydd y darlledwr Cymraeg yng Nghaerfyrddin. Bydd S4C yn cadw ei swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rydyn ni fel Llywodraeth wedi pwysleisio droeon ein hymrwymiad i gael gwasanaeth teledu Cymraeg annibynnol a chryf. Mae cyfraniad y sianel i sector diwydiant creadigol Cymru, i’r economi ac i hybu’r Gymraeg am dros 30 mlynedd yn sylweddol iawn.

Wrth groesawu’r ffaith y bydd gan S4C bresenoldeb yn y brifddinas o hyd, does dim dwywaith y bydd ail-leoli ei brif swyddfa i Gaerfyrddin yn helpu i roi hwb sylweddol i’r economi leol yn Sir Gâr a sicrhau dyfodol cadarn i’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Dywedodd Stephen Crabb, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru sydd â chyfrifoldeb portffolio dros ddarlledu:

Mae’r sector diwydiannau creadigol yn tyfu drwy’r amser yng Nghymru. A Chaerfyrddin eisoes yn gartref i rai o fusnesau creadigol mwyaf llwyddiannus Cymru, gallai ail-leoli S4C fod yn gatalydd i ddenu diwydiannau creadigol eraill i’r ardal, gan ddatblygu canolfan greadigol gryfach fyth yng ngorllewin Cymru.

NODIADAU I OLYGYDDION

• Caernarfon oedd yr ardal arall ar y rhestr fer derfynol, a’r opsiwn arall oedd cadw’r pencadlys yng Nghaerdydd.

• Am ragor o wybodaeth am gyhoeddiad S4C, cysylltwch â Sioned Williams ar 02920 741336

Cyhoeddwyd ar 14 March 2014