Gweinidogion Swyddfa Cymru yn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i Ddinbych
Bydd gweinidogion Swyddfa Cymru yn ymuno â’r miloedd o ymwelwyr sydd ar eu ffordd i Ddinbych i ddathlu iaith, diwylliant a chelfyddydau Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru (2-10 Awst).
National Eisteddfod’s
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn croesawu’r digwyddiad yn ôl i Ddinbych am y tro cyntaf ers 2001 pan fydd yn ymweld â’r Maes ddydd Llun (5 Awst).
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, yn ymweld â’r ŵyl ddydd Mawrth (6 Awst) ac yn ymweld ag amryw o arddangoswyr i gynnig ei chefnogaeth i’r rheiny sy’n cystadlu yn y digwyddiad diwylliannol blynyddol.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Yn ddiamau, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o uchafbwyntiau diwylliannol y flwyddyn yng Nghymru. Mae’n llwyfan gwych i hyrwyddo ein gwlad, ei hiaith a hyd a lled y dalent sy’n bodoli ymysg ein pobl ifanc.
Yn ogystal, mae cynnal yr Eisteddfod yn rhoi hwb economaidd sylweddol i’r ardal. Dyma gyfle gwych i’r sir hyrwyddo a marchnata ei hun i gynulleidfa genedlaethol ac i annog pobl i aros yn hirach ac, yn bwysicach na dim, i ddod yn ôl.
“Rwy’n sicr y bydd yr achlysur eleni yn llwyddiant a diolch i bawb fu’n gysylltiedig â dod â’r Eisteddfod yn ôl i Sir Ddinbych.”
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Mae’n bleser o’r mwyaf i mi gael ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol eleni, a fydd unwaith eto yn arddangos y cyfoeth o dalent a diwylliant sydd gennym yng Nghymru.
Hon yw un o wyliau mwyaf y byd ac mae’n denu dros 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Nid yn unig y mae’r Eisteddfod yn dod â budd i fusnesau yn y dref lle y’i cynhelir, mae hefyd yn dod â threfi a dinasoedd cyfagos i’r amlwg, ac yn tynnu sylw at yr atyniadau diwylliannol ychwanegol sydd ar gael i’r rheiny sy’n bwriadu ymweld â Gogledd Cymru yr haf hwn.
Gobeithio y bydd pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn manteisio ar y cyfle i ddod i Sir Ddinbych i gymryd rhan yn y dathliadau, a phob lwc i bawb fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod.
Delwedd gan MeganElizabethMorris
Delwedd gan MeganElizabethMorris