Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad ynghylch datblygu Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni heddiw

Mae Gweinidogion Swyddfa Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw y bydd Prifysgol Abertawe yn dod ynghyd a’r cwmni tanwydd enfawr BP a Tata …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Gweinidogion Swyddfa Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw y bydd Prifysgol Abertawe yn dod ynghyd a’r cwmni tanwydd enfawr BP a Tata Steel i greu Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni fel rhan o bartneriaeth gwerth £38 miliwn.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Weinidog y DU dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts, heddiw fel rhan o gynllun ehangach gwerth £1 biliwn a fydd yn gweld saith o bartneriaethau newydd rhwng prifysgolion a busnesau’n cael eu lansio ar draws y DU.

Daw’r hwb ariannol o Gronfa Buddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU, a fydd yn darparu’r cyllid i gefnogi datblygu cyfleusterau a phrosiectau newydd mewn meysydd sy’n cynnwys gwyddorau bywyd, ynni a gweithgynhyrchu uwch.

Cyhoeddodd Mr Willetts y bydd £38 miliwn o’r gronfa £1 biliwn yn ariannu partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe, British Petroleum (BP) a TATA Steel Europe i ddatblygu’r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni yn y campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd arfaethedig. Disgwylir y bydd tua 150 o swyddi newydd yn gysylltiedig a’r sefydliad newydd. Bydd Tata Steel hefyd yn gweithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu Specific - y Ganolfan Peirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Caenau Diwydiannol Swyddogaethol Arloesol.

Gan groesawu’r cyhoeddiad dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion gret i Brifysgol Abertawe a Chymru drwyddi draw. Mae gan Addysg Uwch rol bwysig i ysgogi twf economaidd - o ymchwil arloesol i ddarparu gweithwyr hyfedr y mae eu hangen ar fusnesau i ddatblygu a ffynnu. Mae gan Brifysgol Abertawe enw da’n barod am ei gweithgareddau ymchwil ddwys trawiadol. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod gallu ymchwil y Brifysgol yn cael ei gryfhau ymhellach a bydd yn helpu i ddenu hyd yn oed mwy o ymchwil o ansawdd uchel i Gymru.”

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru sydd a chyfrifoldeb dros addysg uwch, y Farwnes Randerson:

“Mae cyhoeddiad heddiw yn bleidlais o hyder gwerth £38 miliwn yng ngallu Cymru i gynhyrchu prifysgolion ymchwil ddwys sydd ar flaen y gad. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i feithrin cysylltiadau rhwng busnesau a’r byd academaidd gan fod y cysylltiadau hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn iechyd ein heconomi. Rwyf wrth fy modd bod prifysgol o Gymru wedi cael ei chynrychioli yn yr haen gyntaf o gyllid sydd ar gael ac rwyf yn gobeithio y bydd prifysgolion eraill yn dilyn esiampl Abertawe ac yn meithrin eu cryfderau ymchwil gyda golwg ar sicrhau cyllid yn y dyfodol.”

Nodyn i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth am y buddsoddiad, tarwch olwg ar wefan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yma. http://www.bis.gov.uk/news/topstories/2012/Nov/investing-in-uk-science-and-research

Cafodd Cronfa Buddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU ei lansio’n wreiddiol gyda £100 miliwn o arian cyhoeddus ym mis Mai 2012 ac, mewn ymateb i’r nifer uchel o gynigion o ansawdd uchel, yn ddiweddar roedd y Llywodraeth wedi treblu’r cymorth cyhoeddus i £300 miliwn. Mae’n rhaid i’r holl brosiectau gynnwys cyllid preifat o ddiwydiant neu’r sector elusennol gwerth o leiaf ddwywaith y cyfraniad cyhoeddus - gan greu dros £1 biliwn o fuddsoddiad gyda’i gilydd.

Caiff Cronfa Buddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU ei rheoli a’i dyrannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, gan weithio ar y cyd a’r sefydliadau datganoledig cyfatebol. Caiff yr holl gynigion eu hasesu gan banel asesu annibynnol.

Cyhoeddwyd ar 1 November 2012