Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cyfarfod Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru
Heddiw (14 Ionawr 2013) cyfarfu Gweinidogion Swyddfa Cymru a’r pedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sydd newydd gael ei hethol ar gyfer …
Heddiw (14 Ionawr 2013) cyfarfu Gweinidogion Swyddfa Cymru a’r pedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sydd newydd gael ei hethol ar gyfer heddlu Cymru yn ystod ymweliad a Chaerdydd.
Cyfarfu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones a Stephen Crabb, a Christopher Salmon, Ian Johnstone, Winston Roddick ac Alun Michael a gafodd eu hethol yn Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu y llynedd.
Ar ol y cyfarfod, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Roeddwn yn falch o gael y cyfle i gael y cyfarfod hwn gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, a’u llongyfarch ar gael eu hethol.
“Bydd gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu un amcan clir, sef lleihau troseddu lle’r ydyn ni’n byw. Fe fyddan nhw’n gwneud hynny drwy leisio pryderon lleol, diogelu plismona rheng flaen, bod yn llym gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol a thorri’n ol ar fiwrocratiaeth. Yn bwysicaf oll, fe fyddan nhw’n sefyll yn gadarn dros ddioddefwyr.”
Dywedodd Mr Crabb:
“Mae ein heddlu’n gwneud gwaith gwych o ran mynd i’r afael a throsedd ac anhrefn. Mae ethol Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gam mawr tuag at roi mwy o lais i bobl Cymru ynghylch sut mae eu hardaloedd yn cael eu plismona. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod a nhw’n rheolaidd i gael syniad pa gynnydd sy’n cael ei wneud.”