Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu fframwaith polisi cynllunio symlach

Heddiw, 27 Mawrth 2012, croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru gyhoeddi Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol.  Mae’r fframwaith cynllunio newydd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, 27 Mawrth 2012, croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru gyhoeddi Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol.  Mae’r fframwaith cynllunio newydd hwn wedi symleiddio’r polisi a etifeddwyd o dros 1,300 o dudalennau mewn 44 dogfen i ddogfen 50 tudalen a fydd yn cefnogi twf yn well ac yn helpu i greu’r cartrefi a’r swyddi sydd eu hangen.

Yn un o’r newidiadau mwyaf erioed i bolisi cynllunio, bydd yn rhoi grym nas gwelwyd ei debyg o’r blaen, yn nwylo cymunedau, ac yn ceisio helpu i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol a hanesyddol ar yr un pryd.  Bydd y newidiadau yn effeithio ar bolisi cynllunio yn Lloegr, ac mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu’r mesurau hyn i sicrhau bod Cymru hefyd yn elwa o drefn gynllunio symlach.

Dywedodd Mr Jones:

“Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer canllawiau cynllunio yn Lloegr yn arwain at ddatblygiadau mwy cynaliadwy. Nid yn unig bydd yn gwarchod cefn gwlad, ond bydd hefyd yn rhoi mwy o rym i gymunedau, gan greu’r cartrefi a’r swyddi sydd eu hangen hefyd.

“Mae Llywodraeth y DU yn credu y bydd rhannau eraill yn y DU yn gweld beth yw buddiannau posib y dull gweithredu symlach hwn, ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio mabwysiadu’r mesurau hyn.

 ”Gallai peidio a chael gwared ar faich rheoleiddio yn y maes hwn fod yn anfantais i ddatblygiadau yng Nghymru yn y dyfodol. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r model Ardal Fenter yng Nghymru, byddai newid eu canllawiau cynllunio o fwy o fudd i’r ardaloedd hynny sy’n dibynnu ar ganiatad cynllunio hyblyg,”

Cyhoeddwyd ar 27 March 2012