Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu cynllun i helpu tafarndai Cymru
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, wedi croesawu cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw gan yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, i gyflwyno…

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, wedi croesawu cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw gan yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, i gyflwyno Dyfarnwr annibynnol ar gyfer tafarnwyr i roi sylw i arferion annheg yn y diwydiant.
Dywedodd Mr Crabb:
“Byddai Dyfarnwr annibynnol yn sefyll dros dafarndai yng Nghymru, gan gefnogi landlordiaid tafarndai sy’n cael trafferthion drwy roi sylw i arferion annheg yn y diwydiant. Drwy ddatblygu Cod, byddai modd rhoi sylw i anghydfodau rhwng cwmniau, achosion o dorri amodau’r cytundeb cyflenwi cwrw, rhenti afresymol a materion sy’n ymwneud a phrisiau cwrw tafarnwyr.
“Yng Nghymru, bydd y mesurau hyn yn helpu tafarnwyr sy’n cael trafferthion, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle mae’r dafarn yn ganolfan gymdeithasol hanfodol i nifer o gymunedau. Bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi cyfle tecach i dafarnwyr ddatblygu busnes a goroesi yn y dyfodol.”
Nodiadau i Olygyddion:
Bydd yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn seilio’r cod arfaethedig ar God Fframwaith y Diwydiant sydd eisoes yn bodoli, a bydd yn cael ei ategu i gynnwys darpariaeth gyffredinol o ran ‘delio’n deg’, yn ogystal a’r egwyddor sy’n cyfeirio at y cytundeb cyflenwi cwrw sy’n nodi na ddylai tafarnwyr sydd mewn cytundeb fod yn waeth eu byd na thafarnwyr sydd ddim mewn cytundeb.
Bydd hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer rhenti, gan y bydd yr ymgynghoriad yn cynnig y dylid dehongli canllawiau a gyhoeddwyd gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yng ngoleuni’r egwyddor hon.
I gael rhagor o wybodaeth http://news.bis.gov.uk/Press-Releases/New-proposals-to-stand-up-for-British-pubs-and-prevent-unfair-practices-685c4.aspx