Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015

Alun Cairns: "Does dim lle i gaethwasiaeth yn yr oes hon ac mae'r Llywodraeth hon yn gwneud ei gorau glas i gael gwared ar y troseddau hyn yn gyfan gwbl"

Heddiw, (31 Gorffennaf), croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns ddeddf arbennig i fynd i’r fael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl.

Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn arloesol a dyma’r gyntaf o’i bath yn Ewrop a fydd yn mynd i’r afael yn benodol â chaethwasiaeth a masnachu pobl yn y 21 ganrif.

Bydd y ddeddfwriaeth yn gwella cryn dipyn ar y gefnogaeth a’r warchodaeth sydd ar gael i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern, gan roi’r adnoddau hollbwysig sydd eu hangen ar asiantaethau gorfodi’r gyfraith i dargedu caethfeistri cyfoes, a sicrhau bod drwgweithredwyr yn cael cosb drom. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth flaengar i annog busnesau i weithredu i sicrhau nad oes caethwasiaeth yn rhan o’u cadwyni cyflenwi o’r dechrau i’r diwedd.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Does dim lle i gaethwasiaeth yn yr oes hon ac mae’r Llywodraeth hon yn gwneud ei gorau glas i gael gwared ar y troseddau hyn yn gyfan gwbl.

Yng Nghymru, fel yn rhannau eraill o’r wlad, rydym wedi gweld achosion lle mae pobl agored i niwed wedi cael eu masnachu a phobl wedi camfanteisio arnynt.

Bydd y mesurau newydd a ddaw i rym heddiw yn rhoi gwarchodaeth sylweddol i’r dioddefwyr hyn ac yn sicrhau bod y rheini sy’n gyfrifol yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd anfaddeuol.

Ond mae llawer i’w wneud o hyd - o fis Hydref ymlaen, bydd yn rhaid i bob busnes mawr ddatgelu beth maent yn ei wneud i sicrhau nad oes caethwasiaeth yn rhan o’u busnes a’u cadwyni cyflenwi.

Mae’r Ddeddf newydd hon yn cael ei chefnogi gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat a bydd yn dod â ni gam mawr yn nes at weld diwedd caethwasiaeth fodern.

Y llynedd, ymwelodd Swyddfa Cymru â Heddlu Gwent i weld drostynt eu hunain y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yn y DU ac i gael gwybodaeth am waith Operation Imperial - uned a sefydlwyd i ymchwilio i droseddau honedig o gaethwasiaeth a chaethwasanaeth, a’r ymchwiliad mwyaf o’i fath yn y DU. Mae’r ymchwiliad wedi arwain at achub nifer o oedolion agored i niwed ac arestio pobl.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n galed i sicrhau bod dioddefwyr caethwasiaeth yn cael y cymorth a’r warchodaeth y maent yn ei haeddu. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae dioddefwyr sydd o bosib wedi’u masnachu yng Nghymru a Lloegr yn cael cymorth drwy gontract a ariennir gan y Llywodraeth ac a ddarperir gan Fyddin yr Iachawdwriaeth. Mae hyn yn rhoi pecyn arbenigol o ofal a chymorth wedi’i deilwra i ddioddefwyr am o leiaf 45 diwrnod.

Ym mis Tachwedd 2014 cyhoeddodd y llywodraeth Strategaeth Caethwasiaeth Fodern a oedd yn amlinellu ymateb cynhwysfawr i’r trosedd. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith gyda gwledydd eraill i fynd i’r afael â’r broblem yn llygad y ffynnon, a mwy o ymwybyddiaeth o fewn pob cymuned.

Nodiadau i Olygyddion

Bydd y Ddeddf yn atgyfnerthu ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith a’r llysoedd drwy:

  1. Cynyddu’r ddedfryd hiraf sydd ar gael ar gyfer y troseddwyr mwyaf difrifol o 14 mlynedd i garchar am oes;
  2. Sicrhau bod drwgweithredwyr sydd wedi’u cael yn euog o gaethwasiaeth neu fasnachu pobl yn wynebu’r drefn atafaelu asedau llymaf;
  3. Cydgrynhoi a symleiddio troseddau caethwasiaeth fodern sydd eisoes yn bodoli mewn un Ddeddf;
  4. Cyflwyno Gorchmynion Atal Caethwasiaeth a Masnachu Pobl, a Gorchmynion Risg o Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl er mwyn cyfyngu ar weithgarwch unigolion sy’n peri risg o achosi niwed; a
  5. Cryfhau pwerau gorfodi’r gyfraith ar y môr i gael gwared ar y mannau gwan a all atal yr Heddlu a Llu’r Ffiniau rhag gallu gweithredu ar fwrdd llongau ar y môr.
Cyhoeddwyd ar 31 July 2015