Stori newyddion

Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu cyhoeddiad gan BT am fand eang

Heddiw [26ain Mehefin], croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, gyhoeddiad gan BT ynghylch cam diweddaraf ei gynllun i gyflwyno band…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [26ain Mehefin], croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, gyhoeddiad gan BT ynghylch cam diweddaraf ei gynllun i gyflwyno band eang ffibr.

Cyhoeddodd y cwmni heddiw y bydd 29,000 o gartrefi a busnesau yng Nghroes Cwrlwys, Gorseinon, Cwmbran a Chastell Nedd yn elwa o’r buddsoddiad diweddaraf fel rhan o’i gynllun gwerth £2.5 biliwn i gyflwyno band eang hyd a lled y DU.

Meddai Mr Jones:

“Bydd hyn yn newyddion gwych i’r miloedd o breswylwyr a busnesau ledled De Cymru a fydd yn elwa o’r buddsoddiad diweddaraf yma.

“Bydd hefyd yn arwain at gyfleoedd cyflogaeth a chychwyn busnes pwysig i unigolion a busnesau, sy’n newyddion i’w groesawu mewn amgylchedd mor gystadleuol a heriol. 

“Mae band eang cyflym yn hanfodol ar gyfer twf economaidd y wlad, ac rydyn ni’n benderfynol o fynd ymlaen gyda’n cynlluniau i wneud yn siŵr y bydd gan Gymru a gweddill y DU y system band eang gorau yn Ewrop erbyn 2015.

“Dyna pam y gwnaethon ni gyhoeddi yn 2011 y byddai cyllid o £57 miliwn ar gael i wella band eang ledled Cymru fel rhan o ymgyrch y Llywodraeth i wneud yn siŵr bod cartrefi a busnesau yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn erbyn 2015.”

Cyhoeddwyd ar 26 June 2012