Stori newyddion

Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu penodi Comisiynydd Camerâu Goruchwylio

Heddiw [13 Medi 2012], mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, wedi croesawu cyhoeddiad y Swyddfa Gartref fod Andrew Rennison wedi cael …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [13 Medi 2012], mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, wedi croesawu cyhoeddiad y Swyddfa Gartref fod Andrew Rennison wedi cael ei benodi’n Gomisiynydd Camerau Goruchwylio.

Bydd Mr Rennison yn goruchwylio cod ymarfer newydd ar gyfer yr heddlu ac awdurdodau lleol, a bwriad y cod ymarfer hwn yw sicrhau gwell tryloywder o ran defnyddio camerau cylch cyfyng a systemau adnabod platiau rhif yn awtomatig (ANPR). Yn ogystal a sicrhau bod y camerau’n cael eu defnyddio’n briodol, bydd y cod newydd yn rhoi arweiniad rhesymegol i’r heddlu ac awdurdodau lleol er mwyn gwella ansawdd y delweddau a gwella’r siawns o ddal troseddwyr.

Mae gan swyddogion Swyddfa Cymru rol yn y broses o ddatblygu’r cod ymarfer, a bydd y fersiwn derfynol ar gael y flwyddyn nesaf.

Mae Mr Rennison wedi bod yn rheoleiddiwr dros dro camerau cylch cyfyng er 2009. Yn ei rol newydd, barhaol, bydd yn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd, yn sicrhau bod yr heddlu ac awdurdodau lleol yn defnyddio systemau camerau goruchwylio mewn modd cyfrifol ac yn dilyn y cod ymarfer y cytunir arno gan y Senedd.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:

“Mae profiad a gwybodaeth Andrew Rennison yn y maes hwn yn golygu mai ef yw’r ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rol bwysig hon.

“Gall camerau cylch cyfyng a systemau adnabod platiau rhif yn awtomatig fod yn werthfawr iawn yn y frwydr yn erbyn troseddu ond mae’n hanfodol ein bod ni’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng diogelu’r cyhoedd a phreifatrwydd. Rwy’n hollol sicr y bydd yr arweiniad yn y cod newydd hwn yn helpu i egluro’r ffiniau yn well ac yn sicrhau aelodau’r cyhoedd fod y systemau hyn yn briodol a bod cyfiawnhad iddyn nhw.

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod Andrew Rennison cyn hir i drafod sut gall fy nghydweithwyr yn Swyddfa Cymru weithio orau gydag ef a’i dim i gyflawni’r nod.” **

NODIADAU I OLYGYDDION**

1.   Mae Andrew Rennison wedi bod yn rheoleiddiwr dros dro camerau cylch cyfyng er 2009. Bydd yn cyfuno ei swydd newydd a bod yn Rheoleiddiwr Gwyddoniaeth Fforensig ond bydd ganddo gefnogaeth gan staff gwahanol ar gyfer y ddwy rol.

2.   Dylai’r cod ymarfer ddod i rym ym mis Ebrill 2013, yn amodol ar ofynion statudol yn Neddf Diogelu Rhyddidau 2012 a phenderfyniad cadarnhaol yn y Senedd,  a bydd yn berthnasol i Gymru a Lloegr.

3.   I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cyhoeddiad, cysylltwch a swyddfa’r wasg yn y Swyddfa Gartref ar 0207 0353535.

Cyhoeddwyd ar 13 September 2012