Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld ag allforwr llwyddiannus yng Nghaerdydd
Alun Cairns: Helpu cwmnïau Cymru i ffynnu mewn marchnad fyd-eang gystadleuol

Gall cwmnïau yng Nghymru fuddio o’r twf mewn allforio gyda chefnogaeth UK Export Finance, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns wth ymweld â chwni llwyddiannus yng Nghaerdydd heddiw.
Gall UK Export Finance – asiantaeth cenedlaethol credid allforio – gynorthwyo cwmnïau yng Nghymru gael mynediant i’r cyllid sydd angen i allforio dramor, neu yswirio yn erbyn y risg ariannol sy’n gysylltiedig ag allforio.
Bu Mr Cairns yn ymweld a BCB International Ltd a gwelodd sut mae UK Export Finance wedi helpu’r dylunwyr a chynhyrchwyr o ddillad ar diogelwch i’r lluoedd arfog allforio i Ecwarod ag Colombia.
Dywedodd Mr Cairns:
Mae ein cynllun economaidd hirdymor yn ymwneud â chefnogi busnesau a’u helpu i yrru twf economaidd, ac rydyn ni’n uchelgeisiol o ran allforio.
Y DU yw’r chweched allforiwr mwyaf yn y byd yn barod – gan allforio nwyddau a gwasanaethau gwerth £500 biliwn yn 2013 – felly nid yw’r cyfleoedd i gwmnïau o Gymru erioed wedi bod cystal.
Rydyn ni am weld 100,000 yn rhagor o gwmnïau o’r DU yn allforio erbyn 2020, gan ychwanegu £400 miliwn y flwyddyn i economi’r DU o bosib.
Ychwanegodd Mathew Hughes, un o Gynghorwyr UK Export Finance, a fu yn y cyfarfod hefyd:
Mae UK Export Finance eisoes wedi helpu nifer o gwmnïau o Gymru i gael gafael ar y cyllid angenrheidiol i dalu am gontractau tramor, neu i gael yswiriant rhag y risgiau talu sy’n gysylltiedig ag allforio.
Fodd bynnag, does dim dwywaith fod llawer mwy o fusnesau ledled Cymru’n wynebu’r problemau hyn, ac efallai nad ydyn nhw’n gwybod ble i droi am arweiniad. Bydden ni’n croesawu’r cyfle i weithio gyda busnesau o’r fath, oherwydd mae’r cymorth rydyn ni’n ei roi’n gwneud gwir wahaniaeth i allforwyr.
UK Export Finance yw asiantaeth credyd allforio’r DU. Mae UKEF wedi cefnogi allforio yn y sectorau hyn: awyrofod, petrocemegion, adeiladu, olew a nwy, cloddio a metelau, telegyfathrebu a chludiant. Mae gan UKEF rwydwaith rhanbarthol o Gynghorwyr Cyllid Allforio sy’n cefnogi busnesau allforio.