Gweinidog Swyddfa Cymru’n ymweld â busnesau yng Ngogledd Cymru sy’n gwneud enw iddynt eu hunain ym maes peirianneg
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones wedi ymweld a thri chwmni yng Ngogledd Cymru sy’n gwneud eu marc yn y diwydiannau gweithgynhyrchu…

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones wedi ymweld a thri chwmni yng Ngogledd Cymru sy’n gwneud eu marc yn y diwydiannau gweithgynhyrchu a pheirianneg yn y wlad hon a thramor.
Yn ystod ei ymweliad a Glannau Dyfrdwy, cyfarfu Mr Jones ag Adrian Morris o PPA Group - un o gwmniau mwyaf blaenllaw’r byd ym maes peirianneg ar gyfer y diwydiant awyrofod.Mae’r cwmni’n cyflenwi ystod o gydrannau mewnol ac allanol arbenigol ar gyfer awyrennau jet preifat, yn ogystal a chludwyr cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Airbus a Raytheon Aircraft USA.Mae hefyd yn cynhyrchu a chyflenwi rhannau ar gyfer y sectorau moduron a morol.
Ar hyn o bryd mae PPA’n cyflogi 21 aelod o staff yn y busnes ar Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, a - gyda thwf o 26% wedi’i gofnodi’r llynedd - mae’r cwmni’n gobeithio ehangu ymhellach i farchnadoedd tramor ac yn bwriadu recriwtio mwy o staff a’r sgiliau priodol dros y misoedd nesaf.
Yna cyfarfu’r Gweinidog a Paul Williams, cyfarwyddwr Specialised Machine Services (SMS) Ltd, cwmni sy’n cynhyrchu cydrannau ar gyfer y diwydiant olew a nwy. Ers ei sefydlu dros 20 mlynedd yn ol, mae’r cwmni wedi tyfu i gyflenwi cydrannau i’r diwydiannau olew a nwy, y diwydiant cynhyrchu pŵer a’r diwydiant meddygol o Norwy i Angola.
Ar hyn o bryd mae SMS yn cyflogi 22 o weithwyr yn ei safle ar Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy ac mae’n dangos gwytnwch yn wyneb yr amgylchedd economaidd heriol gyda’i lyfr archebion cadarn.
Yn dilyn yr ymweliadau, dywedodd y Gweinidog:
“Credaf fod dyfodol llewyrchus i’r diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru ac roeddwn wrth fy modd o gael cyfle i ymweld a PPA ac SMS heddiw.Mae wedi dod yn fwy amlwg mai cwmniau bychain fel y rhain sy’n tyfu sydd fwyaf pwysig o ran cynhyrchu swyddi ar ein cyfer.
“Rwy’n falch o weld cynnwys Glannau Dyfrdwy yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter Cymru.Dylai hyn sicrhau bod gan gwmniau Cymreig yr un manteision cystadleuol a’r rhai ar draws y ffin.
“Bydd cyhoeddiad Llywodraeth y DU y llynedd y darperir £57 miliwn o gyllid ar gyfer gwella band eang ar draws Cymru hefyd yn gwneud gwahaniaeth i obeithion y cwmniau hyn ar gyfer twf, does dim amheuaeth.
“Dymunaf bob llwyddiant iddynt yn eu hymdrechion.”