Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld â Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Canmolodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, gyfraniad diwylliannol ac economaidd enfawr yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol

Lord Bourne at Llangollen International Musical Eisteddfod

Yn ystod y diwrnod yn yr ŵyl, sydd wedi croesawu rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth glasurol ryngwladol dros y blynyddoedd, canmolodd y trefnwyr am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i ddefnyddio’r ŵyl i hyrwyddo Cymru i’r byd.

Croesawodd yr Arglwydd Bourne hefyd yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i ehangu apêl yr Eisteddfod a denu ymwelwyr o ddinasoedd yng ngogledd orllewin Lloegr.

Yn ogystal â mynd o gwmpas safle’r ŵyl a gweld rhywfaint o’r adloniant ar y llwyfannau y tu allan, bu’r Arglwydd Bourne yn gweld perfformiad o ‘Fel Un’ - rhan o Brosiect Cynhwysiant yr Eisteddfod Ryngwladol - a chystadleuaeth Côr Alawon Gwerin y plant. Roedd honno’n cynnwys cystadleuwyr o Gymru, Lloegr, Awstralia, Trinidad a Thobago, yr Almaen ac Indonesia.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne:

Ers saith deg o flynyddoedd, mae Llangollen wedi cynnal un o wyliau cerdd rhyngwladol mwyaf cyffrous ac uchelgeisiol y Deyrnas Unedig. Mae artistiaid fel Carreras, Domingo, Pavarotti a Monserrat Caballé i gyd wedi helpu i roi gogledd Cymru ar y map a marchnata ein gwlad i’r byd.

Rwy’n falch iawn fod yr Eisteddfod yn parhau i dyfu ac yn gobeithio y bydd bwriad y trefnwyr i ddenu ymwelwyr o ddinasoedd gogledd Lloegr yn helpu i atgyfnerthu’r cysylltiadau agos rhwng Lerpwl, Manceinion a gogledd Cymru.

Rwy’n hyderus y bydd digwyddiad eleni yn adeiladu ar enw da’r Eisteddfod yn rhyngwladol ac y gallwn barhau i’w defnyddio - a digwyddiadau tebyg - i hyrwyddo Cymru ar draws y byd.

Yn ogystal, ymwelodd yr Arglwydd Bourne â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte i gwrdd â Glandŵr Cymru, sef yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, i glywed am eu gwaith rhagorol yn denu twristiaid o bob rhan o’r byd at ddyfrffyrdd Cymru.

Cyhoeddwyd ar 7 July 2016