Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld â phrosiect adfer ‘ysbrydoledig’

Heddiw, bu David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld a Phafiliwn Pier Penarth i weld y gwaith adfer pwysig sy’n cael ei gynnal ar yr …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government


Heddiw, bu David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld a Phafiliwn Pier Penarth i weld y gwaith adfer pwysig sy’n cael ei gynnal ar yr adeilad o oes Fictoria.

Mae’r Pafiliwn wedi bod ar gau i ymwelwyr ers dros ddegawd, a bydd y gwaith ailddatblygu gwerth £3.9 miliwn sy’n cael ei gynnal arno yn gweddnewid yr adeilad yn ganolfan ddiwylliannol ac addysgol ar gyfer y gymuned.

Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, y gobaith yw y bydd pob math o weithgareddau’n cael eu cynnig yn yr adeilad rhestredig Gradd II a adeiladwyd yn 1929, gan gynnwys rhaglenni addysgol, ffilmiau, gwyliau ac arddangosfeydd, yn ogystal a darpariaeth gofal plant, bwyty a chaffi. Bydd yr adeilad yn cynnwys arddangosfa bwrpasol hefyd a fydd yn canolbwyntio ar dreftadaeth forol yr ardal, a bydd yn gartref i’r mudiad gwirfoddol Coastwatch, i warchodfeydd bywyd gwyllt ac i’r RSPB.

Cyfarfu’r Gweinidog a Maggie Knight, cyfarwyddwr prosiect y corff sy’n arwain y gwaith adfer, Penarth Arts and Crafts Ltd (PACL).

Cafodd ei dywys o amgylch yr adeilad, a chael cyfle i glywed am ei arwyddocad hanesyddol ac am y cynlluniau hynod ar gyfer y dyfodol.  

Wrth siarad ar ol bod o amgylch yr adeilad, dywedodd Mr Jones:

“Roedd yn galonogol iawn clywed yr angerdd yn lleisiau’r bobl sy’n buddsoddi cymaint yn y gwaith o roi bywyd newydd i’r adeilad pwysig hwn.

“Mae’r prosiect wedi sbarduno brwdfrydedd anhygoel ymhlith aelodau’r gymuned, sy’n amlwg mor hoff o’r adeilad. Yn dilyn fy ymweliad heddiw, mae’n amlwg bod pawb sy’n gysylltiedig a’r prosiect, o’r gwirfoddolwyr i’r prentisiaid, wedi ymrwymo’n llawn i wneud yn siŵr ei fod yn llwyddo.  Mae’r prosiect uchelgeisiol hwn yn cyfleu gweledigaeth y Gymdeithas Fawr, wrth i bobl yn y gymuned gydweithio er mwyn diogelu a chadw’r hyn sy’n bwysig iddynt.

“Mae prosiectau treftadaeth fel y rhain yn gallu mynd ati o ddifri i adfer calon tref, a bydd prosiect adfer y Pafiliwn yn rhoi hwb go iawn i Benarth a’r cylch.”

Mae’r prosiect wedi cael nawdd gan amrywiol ffynonellau, gan gynnwys hwb ariannol o £1.68 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Gyda chymorth ac ymroddiad llu o wirfoddolwyr, disgwylir y bydd y Pafiliwn yn agor ar ei newydd wedd yn 2013, ac yn creu pum swydd, gan gynnwys swyddog addysg a dysgu a rheolwr y pafiliwn.

Cyhoeddwyd ar 20 February 2012