Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld â safleoedd yng Ngwynedd sy'n rhannu cyllid Ffyniant Bro gwerth £19 miliwn

Ymwelodd Gweinidog James Davies â’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol a Pharc Padarn yn Llanberis a thafarn Ty’n Llan yn Llandwrog.

Wales Office Minister James Davies at the National Slate Museum in Gwynedd. | Gweinidog Swyddfa Cymru, James Davies yn Amgueddfa Lechi Cymru yng Ngwynedd.

Nod buddsoddiad gwerth £18.8 miliwn gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yw trawsnewid cymunedau yn ardal llechi Treftadaeth y Byd yng Ngwynedd, tra bo tafarn yn y sir wedi cael £500,000 yn fwy o arian yr wythnos hon gan Lywodraeth y DU i’w datblygu er lles y gymuned.

Dyfarnwyd y grant gwerth miliynau o bunnoedd i’r ardal lechi ym mis Ionawr 2023 fel rhan o ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro lle dyrannwyd £208 miliwn i 11 prosiect ledled Cymru gyda’r nod o greu swyddi a sbarduno twf economaidd mewn ardaloedd sydd wedi’u hesgeuluso’n hanesyddol.

Yr wythnos hon (24 Awst), ymwelodd Gweinidog Swyddfa Cymru, James Davies, â’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol a Pharc Padarn yn Llanberis i glywed sut y bydd rhan o’r £18.8 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn ailddatblygu adeiladau yn yr amgueddfa a gwella amgylchedd y parc cyfagos. Mi wnaeth hefyd ymweld â thafarn Ty’n Llan yn Llandwrog a gafodd wybod yr wythnos hon eu bod wedi cael £500,000 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i helpu i’w datblygu fel canolfan gymunedol.

Yn yr Amgueddfa Lechi, cyflwynwyd Dr Davies i’r crefftwyr sydd â sgiliau a chelfyddyd yn gweithio’r llechi sydd wedi cael eu trosglwyddo i lawr y cenedlaethau, fel rhan o daith dywys o amgylch yr amgueddfa a Pharc Padarn.

Yn ogystal ag ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol a’r ardal gyfagos, mae’r £18.8 miliwn o gyllid Cronfa Ffyniant Bro ar gyfer Gwynedd hefyd wedi cael ei ddyrannu er mwyn:

  • Datblygu canolfan dreftadaeth newydd ym Methesda
  • Gwneud gwelliannau i neuadd gyngerdd Bethesda, Neuadd Ogwen
  • Creu llwybr cerdded a beicio newydd sy’n cysylltu Bethesda â Chwarel Penrhyn
  • Gwneud gwelliannau mawr i ganol tref Blaenau Ffestiniog
  • Adeiladu llwybr cerdded a beicio newydd sy’n cysylltu Blaenau Ffestiniog â Chwarel Llechwedd

Dywedodd Dr James Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae’r £19 miliwn a ddyrannwyd i brosiectau gwahanol yng Ngwynedd fel rhan o’r Gronfa Ffyniant Bro yn fuddsoddiad sylweddol iawn yn ein cymunedau.

Roedd yn wych gweld y cynlluniau hynod gyffrous ar gyfer yr Amgueddfa Lechi a’r ardal gyfagos â’m llygaid fy hun, gan adeiladu ar y statws Treftadaeth Byd y mae’r ardal wedi’i ddyfarnu’n haeddiannol, a hefyd dysgu am ddatblygiad tafarn Ty’n Llan fel canolfan i’r gymuned leol.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio i dyfu economi Cymru a sicrhau ffyniant bro ym mhob rhan o’r wlad. Bydd y buddsoddiadau hyn yng Ngwynedd yn adfywio cymunedau lleol ac yn creu swyddi, twf a chyfleoedd i’r bobl sy’n byw yno.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet dros yr Economi a Chymunedau:

Fel Cyngor, rydym wrth ein bodd bod cynllun “Llewyrch o’r Llechi” Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cymorth ariannol gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Mae arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol a diwydiannol mawr i’r cymunedau cynhyrchu llechi ac edrychwn ymlaen at weld y cynlluniau amrywiol sydd gennym o fewn y cynllun hwn yn ffynnu.

Bydd gan lawer o deuluoedd lleol hynafiaid a fu’n gweithio naill ai yn chwareli Eryri neu yn y diwydiannau cysylltiedig, ac rydym yn falch y bydd eu hetifeddiaeth dosbarth gweithiol, cyfrwng Cymraeg yn cael ei diogelu, ei hyrwyddo a’i dathlu diolch i Statws Treftadaeth y Byd UNESCO, a’n bod yn gallu defnyddio’r dynodiad hwn fel sbardun i ddenu cyllid fel y Gronfa Ffyniant Bro.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Grŵp Llywio Partneriaeth Llechi Cymru:

Roedd yn anrhydedd croesawu’r Gweinidog i Lanberis a dangos iddo sut rydyn ni’n defnyddio ein hanes i ddechrau taith newydd a fydd yn gadael etifeddiaeth economaidd a diwylliannol barhaol ar gyfer Gwynedd heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn benderfynol o ddathlu a harneisio ein gorffennol diwydiannol i greu cyfleoedd newydd cyffrous er budd cymunedau a busnesau’r presennol yng Ngwynedd.

Ychwanegodd Phil Bushby, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Amgueddfa Cymru:

Mae Amgueddfa Cymru yn llawn cyffro am y cyfleoedd gwych y bydd cyllid y Gronfa Ffyniant Bro yn eu creu mewn ardaloedd sy’n datblygu o fewn Safle Treftadaeth y Byd unigryw. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol i warchod ac adnewyddu ein hadeiladau rhestredig Gradd 1, a dod yn ganolbwynt dynodedig ar gyfer dehongli tirwedd llechi’r Gogledd-orllewin.

Bydd y datblygiad newydd yn ein galluogi i gysylltu ac ymgysylltu’n well â chymunedau lleol a’n hymwelwyr drwy adrodd straeon ysbrydoledig am y diwydiant llechi, y bobl a’r amgylchedd, ar ffurf wyneb yn wyneb a thrwy sianeli digidol. Bydd y buddsoddiad hefyd yn creu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau crefft traddodiadol, yn ogystal â chyfleoedd dysgu, gwirfoddoli, creadigrwydd a llesiant.

Hyd yma, mae dwy rownd Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn 2021 wedi gweld £3.8 biliwn yn cael ei ddyrannu i brosiectau ledled y DU gyda Chymru’n cael dros £329 miliwn.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cadarnhau y bydd rownd arall o Gronfa Ffyniant Bro, a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i sicrhau ffyniant bro mewn lleoedd ledled y DU.

Hefyd ddydd Mercher, ymwelodd y Gweinidog Davies â thafarn Ty’n Llan yn Llandwrog, Gwynedd, sydd eisoes wedi cael £250,000 gan Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU i helpu’r gymuned leol i adnewyddu’r dafarn a’i chadw ar agor.

Caeodd y dafarn, sydd wedi’i lleoli mewn adeilad rhestredig Gradd II, yn 2017 ond mae bellach yn eiddo i wirfoddolwyr o’r gymuned ac yn cael ei rheoli ganddynt.

Yr wythnos hon, cafodd yr ymgyrchwyr wybod bod Ty’n Llan wedi cael £500,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i adeiladu a gosod cegin broffesiynol yn y dafarn ac i adnewyddu pum ystafell newydd ar lawr cyntaf y dafarn, i ddatblygu’r lleoliad ymhellach fel cyfleuster cymunedol.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 24 August 2023