Dr James Davies MP

Bywgraffiad

Penodwyd Dr James Davies yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru yn y Swyddfa Cymru ar 27 Hydref 2022.

Dr James Davies yw Aelod Seneddol y Blaid Geidwadol dros Ddyffryn Clwyd.

Cefndir:

Ganwyd James yn Llanelwy a chafodd ei fagu ym Mhrestatyn. Mae ganddo deulu sy’n mynd yn ôl genedlaethau lawer yn y Rhyl a Dinbych.

Gyrfa wleidyddol:

Roedd yn cynrychioli ei ward gartref ym Mhrestatyn fel cynghorydd tref a sir am 11 mlynedd, cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd am y tro cyntaf yn 2015. Cafodd ei ail-ethol yn AS dros Ddyffryn Clwyd yn 2019.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth:

Mae James wedi gweithio fel meddyg yn y GIG ers 2004 ac wedi ymgymryd â hyfforddiant i feddygon iau yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, cyn cymhwyso fel meddyg teulu. Roedd yn hyrwyddwr clinigol dros ddementia am nifer o flynyddoedd. Rhwng etholiadau 2017 a 2019, treuliodd flwyddyn yn ymarfer yn y Rhyl a llawer mwy o fisoedd mewn practisau eraill a gwasanaethau y tu allan i oriau yn y rhanbarth.

Bywyd personol:

Ar wahân i’w waith fel AS a meddyg teulu, mae James yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu ifanc, gwneud gwaith cymunedol lleol, cerdded, teithio, dysgu Sbaeneg ac ychydig o DIY. Mae’n aelod o Gymdeithas Feddygol Prydain, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Rotari a’r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth