Stori newyddion

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld â Heddlu Dyfed Powys

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn cwrdd a’r Prif Gwnstabl Jackie Roberts heddiw ac yn cael gweld sut y mae Heddlu Dyfed Powys…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn cwrdd a’r Prif Gwnstabl Jackie Roberts heddiw ac yn cael gweld sut y mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymgyrchoedd arbenigol mawr fel chwilio am April Jones.

Yn ystod ei ymweliad bydd Mr Crabb yn ymweld a’r adran cŵn gwaith ym Mhencadlys Heddlu Dyfed Powys yng Nghaerfyrddin, er mwyn deall sut mae’r tim arbenigol hwn yn hollbwysig i waith ymchwilio pwysig yr heddlu.

Yn ystod ei ymweliad bydd hefyd yn mynd i’r prosiect cydweithrediad arfau tanio yn Cross Hands i weld sut mae Heddlu Dyfed Powys, Gwent a De Cymru yn dod a’u timau arfau tanio arbenigol ynghyd i gynyddu eu gallu a darparu gwasanaeth sy’n symlach ac yn fwy effeithiol i’r cyhoedd.

Bydd Mr Crabb wedyn yn teithio i Ben-bre ac yn ymweld a hofrennydd Heddlu Powys i ddysgu sut mae’r cyfleuster hwn yn cefnogi ymgyrchoedd chwilio ac achub yr heddlu.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:

“Mae fy ymweliad a Dyfed Powys wedi bod yn ddifyr iawn ac rwyf yn edmygu ymroddiad y swyddogion sy’n gwneud gwaith cymhleth iawn a pheryglus dros ben bob dydd fel rhan o’u dyletswyddau.

“Yn rheolaidd gall ymchwiliadau olygu bod angen chwilio ar draws ardaloedd mawr mewn amodau gwael, ac mae’n rhaid ystyried tiriogaethau anodd iawn fel coetiroedd, mynyddoedd a nentydd.

“Wrth i benderfyniadau pwysig gael eu hystyried ynghylch dyfodol cymorth yn yr awyr ar gyfer heddluoedd Cymru, rwyf wedi bod yn awyddus i weld a’m llygaid fy hun sut caiff yr adnoddau hyn eu defnyddio mewn ymgyrchoedd.”

Cyhoeddwyd ar 17 January 2013