Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn ymweld â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd

Alun Cairns yn tynnu sylw at fuddion partneriaethau rhyngwladol rhwng busnesau a phrifysgolion yng Nghymru

Cardiff Metropolitan University

Bydd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn galw ar y sector addysg uwch yng Nghymru i adeiladu a defnyddio rhwydweithiau byd-eang er mwyn datblygu partneriaethau gydol oes yn ystod ymweliad â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd heddiw (14 Mawrth).

Bydd Mr Cairns yn cael ei groesawu yn ystod ei ymweliad gan Lywydd ac Is-ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Antony Chapman a’r Dirprwy Is-ganghellor, Yr Athro Shelton Hanton.

Bydd yn ymweld â Chanolfan PDR y Brifysgol (Canolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil) i weld y gwaith gwerthfawr ac arloesol sy’n cael ei wneud yn y cyfleuster sy’n derbyn cydnabyddiaeth ac anrhydeddau byd-eang.

Sefydliad ymchwil ar gyfer dylunio ac arloesedd a sefydlwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 1994 yw’r Ganolfan PDR. Mae’u gwaith yn cwmpasu amrediad llawn o gefnogaeth dylunio sydd angen ei wneud o ymchwil gwreiddiol, mewnwelediad y defnyddiwr a dadansoddiad hyd at ddylunio, gwneud prototeipiau, cynhyrchu niferoedd isel yn gyflym, rheoli offer a chefnogaeth i Gyflwyno Cynnyrch Newydd (CCN).

Yn ddiweddar, cafodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ei chydnabod yng Ngwobrau Pen-blwydd Y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach am 2014-2016 mewn seremoni ym Mhalas Buckingham yn Llundain. Dyfarnwyd y wobr am y defnydd o ddylunio a thechnolegau sganio digidol 3D cysylltiedig fel y cafodd ei ddefnyddio mewn llawdriniaeth ailadeiladu genol-wynebol wrth drin clefyd neu yn dilyn trawma.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:

O argraffu a modelu 3D, at ddatblygiadau prototeipiau arloesol, chwyldroadol yw’r unig ffordd o ddisgrifio’r gwaith a wnaed gan Ganolfan PDR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae ymchwil ardderchog yn sbarduno cynhyrchiant ac mae’n hanfodol ar gyfer cyflawni ansawdd gwell o fywyd i bawb. Ar ein stepen drws yma, rydym yn datblygu canolfan ymchwil sy’n arwain y byd ac mae’n helpu i ddenu’r bobl fwyaf disglair y byd. Rydw i wrth fy modd yn cael y cyfle i weld y gwaith hwn gyda’m llygaid fy hun.

Dywedodd Yr Athro Antony Chapman, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd:

Mae’r tîm yn ein Canolfan Rhyngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil (PDR) yn parhau i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am y lefel o arbenigedd ac ymchwil sydd wedi cael ei sefydlu yma. Mae’r tîm ymchwil rhyngddisgyblaethol yn arloesi yn gyson ac yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau defnyddwyr y gwasanaeth a chyda cyd-arweinyddion clinigol. Roedd yn anrhydedd o’r mwyaf i dderbyn Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines am Addysg Uwch ac Addysg Bellach am 2014-16.

Cynhelir yr ymweliad hwn cyn y derbyniad ar gyfer y sector addysg uwch gan Swyddfa Cymru yn Nhŷ Gwydyr ar ddydd Mawrth (15 Mawrth). Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb a Jo Johnson, Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth yn croesawu cynrychiolwyr o brifysgolion Cymru ac o Lysgenadaethau o amgylch y byd i rannu ymarfer da a ffurfio partneriaethau newydd.

Yn ogystal, bydd Mr Cairns yn ymweld â swyddfa ryngwladol y Brifysgol er mwyn archwilio’r rhaglenni sydd wedi cael eu sefydlu er mwyn hyrwyddo ei chysylltiadau gyda marchnadoedd a myfyrwyr posibl drwy’r byd.

Mae’r Brifysgol yn darparu addysg uwch a hyfforddiant i 16,000 o fyfyrwyr o dros 140 o wledydd.

Yn 2014, agorwyd Swyddfa Tsieina Met Caerdydd newydd yn Beijing gan y Brifysgol er mwyn datblygu partneriaethau strategol gyda sefydliadau Tsieineaidd ar gyfer ymchwil ar y cyd a rhaglenni cyfnewid ar gyfer staff a myfyrwyr. Yn gynharach y mis hwn, llywyddwyd digwyddiad bwrdd crwn mewn cydweithrediad â Siambr De Cymru a Chyngor Busnes Tsieina-Prydain er mwyn tynnu sylw at y cyfleoedd a’r heriau sydd ar gael yn Tsieina ar gyfer BBaChau Cymru.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysigrwydd mawr ar bartneriaethau rhyngwladol. Maen nhw yn fwy a mwy pwysig wrth drafod ymchwil ac arloesedd a chyfleoedd allforio.

Mae’r Llywodraeth hwn yn awyddus i adnabod a meithrin partneriaethau rhyngwladol ychwanegol rhwng busnesau a phrifysgolion yng Nghymru. Maen nhw yn hanfodol wrth adeiladu Prydain sy’n gryfach, yn fwy ffyniannus ac yn llawn cyfleoedd.

Cyhoeddwyd ar 14 March 2016