Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn annog y wlad i gefnogi'r Pwerdy Gogleddol

Alun Cairns: Mae gogledd Cymru ar fin cael budd o fomentwm cynyddol y Pwerdy Gogleddol.

Welsh flag

Roedd Mr Cairns yn siarad wrth iddo ef a Gweinidog y Pwerdy Gogleddol, James Wharton, gwrdd ag arweinwyr busnes o Ogledd Cymru a Swydd Gaer.

Dywedodd Alun Cairns fod Gogledd Ddwyrain Cymru’n cyd-fynd yn naturiol â’r rhanbarth economaidd, sydd bellach yn cynnwys dinasoedd gogledd Lloegr.

Roedd Gweinidog Swyddfa Cymru ar daith undydd o amgylch cwmnïau sy’n ffynnu yng Ngogledd Cymru heddiw (dydd Mawrth 18 Awst). Ymhlith y rhain, roedd KK Foods. Bydd Mr Cairns yn ymweld â chegin datblygu’r cwmni ac yn blasu’r rysáit ar gyfer ei gyri llysieuol Coreaidd o fri. Yna bydd Mr Cairns yn ymweld â’r llinell gynhyrchu yn Toyota, Glannau Dyfrdwy.

Disgwylir i Weinidog Swyddfa Cymru a James Wharton dreulio awr gydag arweinwyr cynghorau a busnesau o Ogledd Orllewin Lloegr, yn ogystal â chynrychiolwyr o Gyngor Busnes Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint i drafod sut mae modd helpu’r Pwerdy Gogleddol i dyfu.

Dywedodd Alun Cairns:

Mae’n amlwg ein bod ni’n gweld yr economi’n cryfhau ar draws Cymru - mae ffigurau cyflogaeth yr wythnos diwethaf yn dangos hynny.

Mae Gogledd Ddwyrain Cymru’n hanfodol i’r Pwerdy Gogleddol. Mae mewn sefyllfa berffaith i elwa gyda llu o gwmnïau mawr yma - gan gynnwys nifer o allforwyr. Rwyf am hyrwyddo hynny ac annog arweinwyr busnes yn y gogledd i ddod at ei gilydd i weld sut gallwn ni elwa o’r cyfleoedd o gael cysylltiadau agosach.

Bydd y Gweinidog yn ymweld â chyn Eglwys yn Llandudno, sydd bellach wedi cael ei thrawsnewid yn ganolfan ar gyfer cwmnïau uwch-dechnoleg. Bydd yn ymweld â swyddfeydd y wefan Stockomendation, gwefan sy’n dod â thipwyr gorau’r gyfnewidfa stoc at ei gilydd, yn ogystal ag ymweld ag eraill.

Cyhoeddwyd ar 18 August 2015