Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol

Alun Cairns: Mae’r Eisteddfod yn 'ddigwyddiad pwysig iawn ar galendr diwylliannol Cymru'

National Eisteddfod of Wales

Bydd Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymuno â’r miloedd o ymwelwyr sydd ar eu ffordd i Sir Drefaldwyn i ddathlu iaith, diwylliant a chelfyddydau Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol (1-8 Awst 2015).

Bydd Mr Cairns - sy’n siaradwr Cymraeg rhugl - yn ymweld â’r ŵyl ddydd Llun (3 Awst) lle bydd yn ymweld ag amrywiaeth o arddangoswyr.

Bydd yn cwrdd â Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, ac yn cael taith o gwmpas ardaloedd S4C a BBC Cymru ar Faes yr Eisteddfod ym Meifod. Bydd hefyd yn ymweld â stondin Prifysgol Cymru i nodi buddsoddiad gwerth £3.09 miliwn Llywodraeth y DU yn yr hyb ymchwil Economi Ddigidol yn Abertawe fel y cyhoeddwyd gan y Canghellor yng Nghyllideb yr Haf.

Gyda mwy na 300 o stondinau masnach ar y maes, a thros 150,000 o ymwelwyr yn ymweld bob blwyddyn, credir bod yr ŵyl yn cynhyrchu rhwng chwech ac wyth miliwn o bunnoedd i’r economi leol bob blwyddyn, mewn cyfnod o naw diwrnod yn unig.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad pwysig iawn ar galendr diwylliannol Cymru. Mae’r ŵyl hon ymhlith y gorau yn y byd, ac mae’n cynnig cyfle gwych i ni hyrwyddo iaith, celfyddydau a thalentau’r Cymry i weddill y DU a thu hwnt.

Ni ellir pwysleisio gormod yr effaith economaidd y mae’r ŵyl yn ei chael ar yr ardal leol. Nid yn unig y mae busnesau, gwestai a meysydd gwersylla’r dref sy’n cynnal yr ŵyl yn elwa ohoni, ond mae hefyd yn rhoi sylw i’r ardaloedd cyfagos, a’r atyniadau diwylliannol eraill sydd gan Gymru i’w cynnig i ymwelwyr yr haf hwn.

Rydw i’n edrych ymlaen at ymuno â phawb sy’n teithio i Sir Drefaldwyn i gymryd rhan yn y dathliadau, ac yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn llwyddiant i’r trefnwyr ac i bob un sy’n cystadlu.

Nodiadau i Olygyddion

  • Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod rhwng 1 a 8 Awst 2015
Cyhoeddwyd ar 1 August 2015