Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld â Aberystwyth

Yr Arglwydd Bourne yn galw ar bobl ledled Cymru i hyrwyddo Aberystwyth fel canolbwynt diwylliant hanesyddol cyfoethog

Aberystwyth

Heddiw (15 Gorffennaf) mae’r Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru, yn Aberystwyth i ddathlu diwylliant hanesyddol cyfoethog yr ardal ac i alw ar bobl ledled Cymru i hyrwyddo Aberystwyth fel un o’r ardaloedd gorau ar gyfer twristiaeth.

Mae’r Gweinidog yn y dref i dderbyn cymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth, lle bu’n astudio’r Gyfraith.

Bydd yr Arglwydd Bourne yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru i weld arddangosfa sy’n dathlu bywyd a gwaith un o ffotograffwyr dogfennol gorau Cymru, Phillip Jones Griffiths.

Mae ‘Ffocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch’ yn cynnwys ffotograffiaeth mwyaf adnabyddus Griffiths o anafusion a dioddefaint sifil yn ystod y rhyfel yn Fietnam, yn ogystal â detholiad o’i bapurau a’i arteffactau personol.

Bydd hefyd yn ymweld â bandstand newydd Aberystwyth, sydd hanner ffordd drwy waith ailwampio gwerth £1 miliwn y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Hydref. Roedd y bandstand gwreiddiol yn dirnod amlwg ar lan y môr yn y dref er 1935, ond oherwydd difrod storm bu’n rhaid ei ail-adeiladu. Mae’r adeilad newydd yn cynnwys bandstand deulawr gyda man perfformio cyhoeddus a lle bwyta.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, sy’n weinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae Aberystwyth yn llawer mwy na thref glan môr atyniadol yng Nghymru - mae’n ganolbwynt diwylliant a hanes cyfoethog y mae’n rhaid ei ddathlu. Mae’n gyfrifoldeb ar bawb ohonom i hyrwyddo Aberystwyth fel un o’r ardaloedd gorau o ran twristiaeth yng Nghymru.

Mae’n anrhydedd gweld y casgliad trawiadol o waith Phillip Jones Griffiths - roedd yn ffotograffydd eithriadol ac yn Gymro balch, ac fe roddodd foment arwyddocaol mewn hanes ar gof a chadw.

Roedd hi hefyd yn wych gweld y cynnydd sydd wedi ei wneud ar y bandstand newydd. Am y 80 mlynedd diwethaf mae’r bandstand wedi bod wrth galon y gymuned, ac mae ganddo arwyddocâd gwirioneddol eiconig yng ngolwg y dref.

Cyhoeddwyd ar 15 July 2015