Gweinidog Swyddfa Cymru’n siarad mewn digwyddiad Dŵr Cymru i randdeiliaid
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, yn cyflwyno'r sylwadau agoriadol yn nigwyddiad Dŵr Cymru i randdeiliaid yn Llundain yfory (19 Mehefin). Bydd y bwrdd crwn yn cynnwys Aelodau Seneddol allweddol Cymru a chynrychiolwyr Dŵr Cymru a byddant yn trafod sut mae modd rheoli adnoddau dŵr yn effeithiol.
Cynhelir y digwyddiad wythnos ar ôl y cyhoeddiad fod Dŵr Cymru’n cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, yn ôl papur gan Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod pymtheg o swyddi’n cael eu creu yn y gadwyn gyflenwi am bob deg o swyddi y mae Dŵr Cymru’n eu creu, ac mae’r cwmni’n cefnogi dros 6,000 o swyddi ledled Cymru.
Cynhelir y digwyddiad i nodi lansio ymgynghoriad Dŵr Cymru ‘Eich Cwmni, Eich Barn’. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 5ed Mehefin ac mae’n gofyn i gwsmeriaid fynegi eu barn am gynlluniau’r cwmni ar gyfer y dyfodol fel rhan o fuddsoddiad gwerth £2bn y cwmni mewn gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth.
Dywedodd Gweinidogion Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:
Rwy’n falch o gael cyflwyno’r sylwadau agoriadol yn nigwyddiad Dŵr Cymru ar ôl i’r cwmni lansio ei ymgynghoriad.
Mae dŵr yn rhan hanfodol o seilwaith y wlad, ac mae’n bwysig ym mhob sector o’n heconomi.
Rwy’n falch y bydd cwsmeriaid a rhanddeiliaid Dŵr Cymru yn cael cyfle i fynegi eu barn ynghylch y ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r heriau a’r dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at glywed canlyniadau’r ymgynghoriad ‘Eich Cwmni, Eich Barn’ a gweld y manteision i gwsmeriaid yng Nghymru.
Nodiadau i Olygyddion:
•Mae Dŵr Cymru’n bwriadu buddsoddi £2 biliwn i gynnal a chadw a gwella’r gwasanaeth rhwng 2015-2021 •Bydd model dielw, unigryw y Cwmni’n ariannu’r buddsoddiad nas gwelwyd o’r blaen •Bydd cynnydd ym miliau cwsmeriaid yn cael ei gadw mor isel â phosib yn ystod y cyfnod hwn •Mae cyfle i gwsmeriaid fynegi eu barn ynghylch y cynlluniau mewn cyfres o ddigwyddiadau ym mhob cwr o’r wlad dros yr haf
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, cysylltwch â Heulyn Davies ar 01443 452 452
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 June 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.