Gweinidog Swyddfa Cymru yn mynychu derbyniad Digwyddiad y Gymdeithas Fawr heno yn rhif 10 Stryd Downing
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, yn mynychu derbyniad Gwobrau’r Gymdeithas Fawr heno yn rhif 10 Stryd Downing (21 Mehefin 2012). …
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, yn mynychu derbyniad Gwobrau’r Gymdeithas Fawr heno yn rhif 10 Stryd Downing (21 Mehefin 2012).
Bydd cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation, sef enillwyr Cymreig cyntaf Gwobrau’r Gymdeithas Fawr, yn mynychu’r digwyddiad. Sefydlwyd y fenter gymdeithasol hon er mwyn mynd i’r afael a phroblemau cymdeithasol ac economaidd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
A hithau wedi’i sefydlu gan aelodau’r gymuned yn 2000, mae Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation wedi helpu pobl a grwpiau lleol i ddechrau prosiectau er mwyn gwella pob agwedd o fywyd - o gaffi Creation sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau’r we, i’r grŵp Knitting Nannas sy’n creu nwyddau wedi’u gwau ar gyfer mudiadau gwirfoddol.
Cyflwynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y wobr i Dawn Davies, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth, yn ystod ymweliad a’r fenter gymdeithasol ym mis Rhagfyr 2011.
Sefydlwyd Gwobrau’r Gymdeithas Fawr gan y Prif Weinidog ym mis Tachwedd 2010. Y bwriad yw tynnu sylw at unigolion a mudiadau ar draws y DU sy’n cydymffurfio a’r Gymdeithas Fawr yn eu gwaith neu yn eu gweithgareddau er mwyn annog eraill i gymryd rhan.
Mae’r Gwobrau yn canolbwyntio ar dair thema fawr y Gymdeithas Fawr - hybu gweithredu cymdeithasol, rhoi grym i gymunedau ac ehangu gwasanaethau cymdeithasol.