Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymateb i ddigwyddiad llong cargo MV Carrier
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones: “Hoffwn dalu teyrnged i aelodau’r gwasanaethau brys, ac yn arbennig i wirfoddolwyr badau achub…
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones:
“Hoffwn dalu teyrnged i aelodau’r gwasanaethau brys, ac yn arbennig i wirfoddolwyr badau achub yr RNLI o Landudno a’r Rhyl, a fu’n gweithio’n ddiflino - a hynny mewn amgylchiadau anodd iawn - i achub y rheini ar fwrdd y llong neithiwr.
“Fodd bynnag, mae hon yn ymgyrch achub barhaus sy’n gofyn am ymdrechion ar y cyd parhaus y gwasanaethau hynny sy’n rhan o’r broses. Rwy’n ymwybodol bod tim o’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol wedi cael ei anfon yno i gychwyn ymchwiliad llawn.
“Rwy’n derbyn y newyddion diweddaraf yn rheolaidd gan Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau, ac rydyn ni’n monitro’r sefyllfa yn Llanddulas yn ofalus wrth iddi ddatblygu.”