Datganiad i'r wasg

Eisteddfod yr Urdd

Heddiw bu Guto Bebb, gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn canmol y croeso cynnes mae Eisteddfod yr Urdd wedi ei chael yn Sir y Fflint

Guto Bebb with Sioned Hughes, Chief Executive of Urdd Gobaith Cymru

Heddiw bu Guto Bebb, gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn canmol y croeso cynnes mae Eisteddfod yr Urdd wedi ei chael yn Sir y Fflint, a dywedodd ei fod yn dystiolaeth bod yr iaith Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi a’i chefnogi ledled y wlad.

Yn siarad yn ystod ymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, dywedodd Mr Bebb ei bod yn hynod o bwysig bod modd i blant ysgol o bob cwr o Gymru gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n hybu diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i Mr Bebb gwrdd â’r trefnwyr, i wylio rhai o’r digwyddiadau, ac i atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi’r iaith Gymraeg.

Dywedodd Mr Bebb:

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc i gofleidio’r iaith Gymraeg a’n hunaniaeth ddiwylliannol gyfoethog ers blynyddoedd maith. Bydd plant ysgol o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan ac yn cystadlu drwy gydol yr Eisteddfod hon yn y Fflint. Bydd yn brofiad a fydd yn aros gyda nhw am weddill eu hoes. Rwy’n falch dros ben bod pobl leol y Fflint a Sir y Fflint wedi rhoi croeso cynnes i’r Urdd. Dymunaf bob llwyddiant iddi.

Rydw i’n hyderus y bydd llawer o bobl ddi-Gymraeg yn yr ardal leol wedi mwynhau bod yn rhan o’r profiad, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth anhygoel i Eisteddfod yr Urdd 2016.

Cyhoeddwyd ar 2 June 2016